Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU newydd. 'Roedd Ymneilltuaeth ynghanol ei chyffro ei hunan-Diwygiad 1904- 5-ond byr fu dylanwad hwnnw, a gwclwn mai testun anerchiad o'r gadair yng Nghymanfa Annibynwyr Dwyrain Morgannwg yn 1909 oedd "Difaterwch Crefyddol". Methwyd ffrwyno'r profiadau crefyddol cyfoethog i ddibenion y gymdeithas. Mae arnom ddyled fawr i'r Parch. E. T. Davies am y gyfrol hon. Llwydd- odd i ddangos yn gryno gynnydd Ymneilltuaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac i brofi fod hadau methiant yn y llwyddiant a gafwyd. Crybwylla'r awdur un ffactor yn nirywiad Ymneilltuaeth, sef yr iaith Gymraeg. Gwir a ddywedodd yr Athro Brinley Thomas mai'r ardaloedd diwydiannol a gadwodd yr iaith Gymraeg yn fyw. Ond awgryma'r awdur fod colli iaith i Gymry Morgannwg a Gwent yn gyfystyr â cholli crefydd a cholli gwreiddiau. Di- hoeni a wnaethant wrth droi i'r Saesneg-os na ddigwyddodd y trawsnewid yn ddigon cynnar fel yn hanes Bedyddwyr Sir Fynwy.. Dangosodd yr awdur ddigon i'n cynorthwyo yn y dasg o genhadu rhag cyHawni'r un camgymeriadau a wnaeth ein tadau. Mae'r gyfrol yn gyfraniad pwysig at ein gwybodaeth o'r maes. Llwyddodd yr awdur yn ei amcan, a cherddodd ei lwybr yn sicr a diwyro. D. BEN REES Abercynon A. O. H. Jarman, Sieffre o Fynwtj. Geoffrey of Monmouth (Caerdydd, 1966, 4/6). Dyma'r llyfr diweddaraf yng nghyfres ddwyieithog Gwasg y Brifysgol, Cyfres Gŵyl Ddewi, a gellir dweud amdano ei fod yn teilyngu ei restru gyda'r goreuon. Gwyddom fwy am Sieffre o Fynwy nag a wyddom am lawer awdur sydd yn nes atom o ran dyddiad, ond y mae ei lyfr Historia Regum Britanniae, a ymddangosodd yn nhridegau'r ddeuddegfed ganrif, wedi codi cynifer o broblemau ac wedi cael cymaint o ddylanwad ar lenyddiaethau Ewrop. fel y pery'n destun ymchwil cyhyd ag y pery diddordeb yn yr Oesoedd Canol a'u llên, ac yn wir i'r Cymro a fynnai wybod mwy am y ddeubeth hynny, ni ellid cymeradwyo gwell man cychwyn na chyda Sieffre a chyda gwr arall sy'n gysylltiedig â'n gwlad ni, sef Gerallt Gymro. Y mae'r Athro Jarman yn ysgrifennu ar faes y mae'n arbenigwr a.no, ac nid gormodiaith yw dweud na allai neb ond awdurdod fel efô ysgrifennu ar bwnc mor gymhleth Iyfr mor ddifyr a meistraidd ag ydyw hwn. J. E. CAERWYN WILLIAMS