Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD NODYN AR GYFEIRIADAETH GYDA SYLW ARBENNIG I DDEFNYDD R. WILLIAMS PARRY OHONO UN o arfau miniocaf bardd yw cyfeiriadaeth. Hwn yw maen tramgwydd darllenwyr sy'n cwyno oherwydd anawsterau bardd- oniaeth 'fodern.' Ond nid ffenomenon ein cyfnod ni ydyw o gwbl; mae mor hen â barddoniaeth ei hun. Heb wybodaeth o "Gwŷr a aeth Gatraeth oedd ffraeth eu llu" o'r chweched ganrif yr oedd darllenwyr neu wrandawyr Owain Cyfeiliog yn y ddeuddegfed ganrif yn cael yr un anhawster yn gymwys pan ganai ef, Ciglau am dâl medd myned haid-Gatraeth Cywir eu harfaeth, arfau lliwaid. Fel y mae'r term yn awgrymu, cyfeirio at rywbeth y mae. Mae'n amlwg, wrth gwrs, fod pob gair yn cyfeirio at rywbeth, y gair 'cadair' at gadair, a'r gair 'cyfeillgarwch' at gyfeillgarwch. Nid oes ymateb o gwbl heb wybodaeth o lun neu ansawdd y gwrthrych y cyfeirir ato. Nid yw dweud fod dyn fel 'oen' o werth o gwbl i'r sawl nad yw'n adnabod oen.' Ond gyda gwybodaeth gymharol eang o'i iaith nid yw Cymro yn debyg o gael trafferth i ddeall ystyr gosod- iadau fel Mae hiraeth yn y mor a'r mynydd maith. Ac eto tybed? Y gwir yw hyd yn oed gydag amgyffrediad llwyr o 'môr' a mynydd' na cheir gwir arwyddocâd y teimlad a amlygir yn y llinell heb wybodaeth fanwl o farddoniaeth gyHawn R. Williams Parry. Heb eithriad bron mae ei adwaith ef i fôr yn un gwrthnysig-"rhigwm trist y môr," "nid oes i mi ddiddanwch yn y môr," "dirfawr derfysg môr," "swn mwy trist na swn y môr,a'i adwaith i fynydd yr un mor gyson hyfryd- A chodai'r mynydd wrth fy nôr/Ymhell o'r byd, ymhell o'r môr," "anhreuliedig haul Gorffennaf gwych/Yn gwahodd tua'r mynydd." "Pan glywn y CYFROL CXXIII. RHIF 526. IONAWR 1968