Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OLRHAIN FFRYDIAU CREFYDD CARWN gymryd gam ymhellach y ddadl a amlinellais yn fy ysgrif "Tuag at Ddeall Rhawd Crefydd," a gyhoeddwyd yn rhifyn Gorffennaf 1966 o'r TRAETHODYDD. Ar ddiwedd yr ysgrif dadleuais fod deunydd crai'r Crefyddau Mawr, megis syniadau ail-eni a dihangfa, yn debyg i'w gilydd am fod peth o ddelw'r hen fythos i'w weld ar lên a chrefydd y Semitiaid a'r Indiaid, a bod y gwahan- iaethau sylfaenol rhwng y ddau draddodiad mawr crefyddol i'w deall yn nhermau yr hyn a ddigwyddodd i'r myth yn y ddau ddiwylliant. Yn y Beibl 'daeth y myth yn berson hanesyddol'; yn llên yr India daeth y myth yn brofiad cyfriniol. Cyffredin yw'r ffynhonnell ond amrywiol ei ffrydiau. Ac fel popeth byw arall y mae crefydd hefyd yn tyfu, ac y mae iddi ei gogwydd. Gan ddilyn ffordd gynnil H. S. Nyberg o drafod llên a defod y Groegiaid fel datblygiad o'r mythos i'r logos, defnyddiais y termau tempus a mysterion fel mynecpyst i ddangos gogwydd y crefyddau, y naill am y Beibl a'r llall am lên yr India. Ond os yw'r termau a ddefn- yddiwn i fod o werth gwirioneddol y mae'n ofynnol iddynt gymryd eu hystyr o gynefin y crefyddau yn hytrach nag iddynt ddwyn lliw rhagdybiaethau'r sawl a'u defnyddia. Ni olygaf y dylai'r hanesydd wrth drafod crefydd arbennig ei gyfyngu ei hun i'r eirfa a geir yn y grefydd honno, oherwydd pe gwnai hynny, byddai mewn perygl o ddadlau mewn cylch ac o ragdybio'r hyn y dymuna ei egluro. Er mwyn dadlennu'r estron rhaid i'r ysgolhaig yn fynych ddefn- yddio termau cyfarwydd, a'i ddyletswydd yw sicrhau fod yr ystyr a rydd iddynt yn cydymffurfio ag ystyr y deunydd a astudir. Nid oes air a ddengys yn well fod dadansoddi manwl fel hyn yn hanfodol bwysig na'r gair myth.' Defnyddir y gair hwn mewn gwahanol ystyron gan wahanol awduron, ac ar ben hynny y mae iddo ei ystyr glasurol oherwydd gair Groeg ydyw. Nid yw'r ystyr wreiddiol, sef stori am y duwiau, yn taflu llawer o oleuni ar y pwnc, oherwydd yr hyn y carem ei wybod yw beth a olygai'r stori i'r rhai a'i lluniodd. Ac os mynnir cadw'r ystyr hon, yna ni ellir yn rhwydd wneud defnydd o'r gair 'myth' mewn perthynas ag Undduwiaeth. Y mae ffin bendant rhwng y gred mewn un Duw, pa mor gymhleth bynnag fo'r