Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SALLWYR CYMRAEG: WILLIAM SALESBURY RHAN II UN o'r egwyddorion y gweithiai Salesbury arni wrth gyfieithu'r Testament Newydd oedd yr egwyddor o gyfieithu llythrennol, h.y., cyfieithu geiriau yn hytrach na chyfieithu'r ystyr.1 Dyma egwyddor Pagnini a Münster, ac fel y gwelwyd eisoes saif Beibl Genefa a Salesbury yn fynych yn yr un traddodiad â hwy. Yn y teitl a rydd i'r Testament Newydd ei enw ef ar y dull hwn yw cyfieithu 'air yn ei gylydd.2 Golyga'r egwyddor hon fod yn rhaid cyfieithu'n fanwl bob gair sydd yn y gwreiddiol, ac ar yr un pryd na ddylid ychwanegu at y cyfieithiad ddim nad yw yn y gwreiddiol heb ddangos hynny. Dilyn Salesbury ddull cyfieithwyr Genefa trwy nodi unrhyw air a ychwanegir yn y cyfieithiad er mwyn gwneud yr ystyr yn glir. Daw'r egwyddor o gyfieithu llythrennol i'r golwg yn yr enghreifftiau a ganlyn: ii, 4.-He that dwelleth in heaven shall laugh them to scorn (Beibl Mawr). But he that dwelleth in the heaven shal laugh (Genefa). Eithyr yr hwn a breswilia yn y nefoedd a chwardd (Salesbury). Ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng y Beibl Mawr a Beibl Genefa yn yr adnod hon. Rhydd Beibl Genefa ychwanegiad ar y dechrau a dynodir yn y ffordd arferol nad yw yn y gwreiddiol. Ychwanegodd y Beibl Mawr at yr Hebraeg trwy ddehongli mwy ar y ferf a'i chyfieithu yn 'laugh them to scorn.' Glyn Genefa yn nes at yr Hebraeg, a gwna Salesbury yr un modd. Yn wir, tri gair sydd yn y frawddeg Hebraeg, ac y mae'r cyfieithiadau llythrennol Lladin yr un mor gynnil ac 'yn dilyn yr un drefn geiriau. Dodir y fannod yn y frawddeg Hebraeg- y nefoedd'; fe'i gadawyd allan o'r Beibl Mawr, ond fe'i rhoddwyd i mewn gan Genefa a Salesbury. Gall cyfieithiad Salesbury yn yr adnod hon fod yn gyfieithiad gair am air o'r Hebraeg, Pagnini, Münster, neu Feibl Genefa, ond nid o'r Beibl Mawr. ii, 7: Sylwyd eisoes ar yr adnod hon, a gwelwyd ei bod o ran ystyr a dehongliad yn dilyn Beibl Genefa ar draul y Beibl Mawr. Y mae'n werth sylwi ar frawddeg olaf yr adnod mewn nifer o gyfieithiadau 1. Isaac Thomas, op. cit., t. 80. 2. ibid.