Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU Bleddyn Jones Roberts, Proffwyd Gofidiau: Esboniad ar Lyfr Jeremeia (Argraffty'r M.C., Caernarfon, 1967), tt. 232. 10/6 HONNA'R siaced lwch mai 'Dyma'r unig gyfrol Gymraeg safonol ar Lyfr Jeremeia.' Nid yw'n honni gormod. Ychwanega fod 'y gyfrol hon yn drwyadl ysgolheigaidd, ac yn ddiddorol dros ben.' Nid oes ddadl ynghylch ei ysgol- heictod hi, ond gan mai goddrychol yw diddordeb bydd yr ymateb iddi yn siwr o amrywio. Yr unig beth y gallaf fl ei ddweud yn bendant a gonest yw i mi ei chael yn anghyffredin o ddiddorol ac i'r blas gynhyddu fel yr awn rhagof. Ar y llaw arall, gallaf feddwl am ambell un yn diffygio cyn cyrraedd diwedd y rhagarweiniad. Cymhellwn y cyfryw i ddechrau gyda'r Sgyrsiau ac oni chaiff damaid at ei ddant yn irhain nid oes a'i diddora mewn Ysgol Sul nac unrhyw fath ar drafodaeth grefyddol. Ceir yn y rhagarweiniad draethiad clir ar gefndir hanesyddol a chrefyddol cyfnod y proffwyd Jeremeia, natur ei weinidogaeth, a threfn lenyddol y Llyfr. Yna ymfwrir ati i esbonio ei gynnwys. Rhennir y cyfan yn wersi cyfleus ac o flaen pob darn o esboniad ceir nodiadau testunol. Ar ddiwedd y gwersi, yn lle codi cwestiynau fel sy'n arferol, cyflwynir sgyrsiau sy'n codi'r bont rhwng oes Jeremeia a'n helbulon cyfoes ni. Cynhwysir dau fap, ond mae'n rhaid dweud bod angen sbectol ar lygad barcud i allu darllen y print man yn y dehongliad i'r map o ymerodraeth Babilon ar dud. 40. Y mae'r llyfr hwn yn codi'r ysgyfarnogod i gyd a themtasiwn yw mynd ar ôl gormod ohonynt i'w gwâl. Un sylw cyffredinol i ddechrau. Da o beth fyddai darllen cyfrol bwysig arall yr awdur, sef Sôn am Achub, ochr yn ochr â'ir llyfr hwn, gan mai'r hyn a ddaeth i'w alw yn safbwynt 'Hanes yr Achub' sy'n gefndir neu'n allwedd i'r ddau, er bod yr awdur yn gwingo weithiau ac yn ddigon dewr i dorri ei lwybr ei hun yn ôl yr angen. Mewn rhai mannau, efallai, y gellir cwyno ei fod yn rhagdybio gormod o wybod- aeth ar ran y darllenydd cyffredin. Er enghiraifft, clywir am y ddogfen E (t. 21), neu P (t. 79), a damcaniaeth Graf-Wellhausen heb egluro ddigon beth a olygant. Ond wedi'r cyfan gwell yw saethu dros ein pennau nac at ein traed oherwydd mewn Ysgol Sul caiff yr athro gyfle i esbonio'n llawnach. Fe wêl y cyfarwydd ffresni y dehongliad mewn llawer man, ac onid yw'n newydd sbon er hynny ceir newydd-deb pwyslais a chyHwyniad. Yn wahanol i'r dybiaeth gyffredin a fu'n ffasiynol tybia'r awdur nad dylanwad Deuter- onomium sydd yn Jeremeia 'ond tystiolaeth, .o'r naill gyfeiriad a'r llall, dros fodolaeth arddull a geirfa arbennig yn y seithfed ganrif cyn Crist a oedd yn addas i amcanion cyltig Ymdrin â chwestiwn diddorol perthynas Jeremeia â'r cwlt, a sylwi gyda llaw mai yng ngoleuni'r cwlt hefyd y mae deall llawer o'r Salmau (t. 29). Gyda golwg ar swyddogaeth y brenin yn y ddefodaeth geilw sylw at waith pwysig yr Athro A. R. Johnson, un arall o gynhyrchion gloyw Prifysgol Cymru ym maes astudiaethau Beiblaidd (t. 128). Annisgwyl, efallai, i rai fydd ei rybudd na wyddom yn iawn fod Jeremeia