Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i weld y peryglon ac fe ddangosodd yn gadarn sut y mae'r Cyfamod yn Israel yn cydio 'Hanes Achub' wrth 'hanes' (t. 230). Felly yr oedd ganddo ryw- beth i'w ddweud wedi'r cyfan wrth y rhai sy'n dehongli'r cwbl o safbwynt 'Hanes Achub'! Diolch am hynny oherwydd pan ymbellha gwirioneddau'r cwlt oddi wrth y bobl a'u hanes mynd i gyfeiriad ofergoeliaeth a wna. 'Roedd angen tynnu'r pendil yn ôl i'r canol a dyna a wnaeth yr Athro, er i mi ofni ei fod ar fin mynd â ni i'r pegwn arall. Nid digon adrodd 'Hanes Achub' yn yr addoli; rhaid gweld fod ei wreiddiau yn 'hanesyddol.' Beirniadol iawn yw'r awdur, yn ei ragair, o ddoethineb Pwyllgor y Maes Llafua: yn gosod llyfr mor ddigalon â Jeremeia yn bwnc. Gan mai hynny a fu'n achos cael yr esboniad campus hwn yn Gymraeg bu'r Pwyllgor yn ddoethach na'r Doethor wedi'r cyfan. Y mae'r arddull yn glir ac eithriad yw brawddeg amwys fel hon: 'oherwydd hwn oedd yr Abiathar a gefnogai Adoneia i fod yn frenin ar ôl Dafydd ac nid Solomon' (t. 23). Trueni yn fy marn i yw colli'r 'ciconia' (t. 82) — mae'n aiir a gafael ynddo yn awgrymu 'concord' o aderyn Ni allaf organmol y llyfr hwn a chefais fwynhad ac adeiladaeth o'i ddarllen. Melys moes eto, a gobeithio y caiff yr Athro yr hamdden a ddymuna i ymchwilio i gefndir yr ymadrodd 'Chwiliwch yr Ysgrythurau.' C. G. Williams Coleg y Brifysgol, Caerdydd J. E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol II (Gwasg Gee). 25/- AWGRYMAIS wrth adolygu'r gyfrol gyntaf o Ysgrìfau Beirniadol y gallai, fel cyhoeddiad blynyddol, gyflawni yng Nghymru yr un swydd â'r Essays and Studies blynyddol yn Lloegr. Y mae'r ail gyfrol hon yn fwy cynhwysfawr, ac os yw'n cynrychioli rhyw fath o Year's Work in Welsh Studies-a chym- hwyso teitl Saesneg adnabyddus-y mae'n dystiolaeth i'r lle dyledus a roddir i feirniadaeth lenyddol erbyn hyn mewn ysgol a choleg a chylchoedd eraill. Cyfrifais fod ynddi bedair ysgrif yir un i'r ugeinfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dwy i'r ddeunawfed, a thair i oes y cywydd. Y mae arnom ddyled fawr i'r Athro Caerwyn Williams, pe dim ond am gasglu'r fath gynhaeaf yn ei bryd, ond'ni ddylid diystyru ei 'nodiadau golygyddol' sy'n awgrymu mai 'hyrwyddo darllen deallus a phleserus' yw un o weith- gareddau'ir beimiad. Y mae yn y gyfrol un ysgrif ychwanegol ar yr ohebiaeth a fu rhwng y ddau lenor Ffrengig, Paul Claudel a Jacques Rivière. Ni theimlais fod y dyfyniadau yn hon yn cadarnhau gosodiadau Mr. J. H Watkins am bwysigrwydd chwyldroadol y llythyrau, nac yn cyfleu dim o rym ac argyhoeddiad tröedigaeth Claudel ym mis Rhagfyr 1886. Ond y mae un o osodiadau Claudel, 'Dirmygaf orchestwyr,' yn haeddu ei gofio. Perygl parod ambell feirniad llenyddol yw ymorchestu, yn fynych am nad oes ganddo farn gytbwys i'w mynegi a bu'n fagl i rai o awduron y gyfrol hon. Y mae'r ysgrifau yn amrywiol eu dull a'u tarddiad, rhai yn anerchiadau, eraill yn gynnyrch ymchwil hir a manwl na all ond arbenigwr ei fesur yn llawn. Nodaf yma fymateb sigledig i rai ohonynt.