Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD JOHN WILLIAMS AB ITHEL Rhan 1 GANWYD Ab Ithel yn Nhŷ Nant ym mhlwyf Llangynhafal, Sir Ddinbych, Ebrill laf, 1811. Pobl gyffredin oedd ei rieni, Roger ac Elizabeth Williams.1 Ychydig a wyddom am ei blentyndod ond dywed Glasynys ei fod "yn fachgen tawel a myfyrgar. Dar- llenai yn ddi-baid a hoffai fod ar ei ben ei hun yn wastad."2 Ni wyddom pa Ie y cafodd ei addysg foreol. Ond mae'n sicr iddo dderbyn addysg dda yn rhywle ac yna anfonwyd ef i Ysgol Ramadeg Rhuthun. Yn ystod ei gwrs yn yr ysgol hon enillodd ddwy ysgoloriaeth a'i galluogodd i fynd i Goleg Iesu, Rhydychen. Ymaelododd yn y Coleg hwnnw, Mawrth 15, 1832. Yn ôl barn un o'i gyd-fyfyrwyr ni bu "neb dygnach a mwy diddiogi mewn Coleg erioed."3 Er hynny ni wnaeth unrhyw orchest yn Rhydychen, ond enillodd ei radd yn 1835. Pan oedd yn Rhydychen y mae'n ddiamau i Ab Ithel ddod dan ddylanwad Mudiad Rhydychen. Yn ôl Elis Wyn o Wyrfai yr oedd yn tueddu at ochr y 'Diwygwyr Tractaraidd' ac yr oedd dylanwad Newman, Keble a Wilberforce yn fawr arno.4 O Rydychen anfonai Ab Ithel farddoniaeth i'r Gwyliedydd dan y ffugenw 'Cynhafal' — enw sant ei blwyf genedigol. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach newidiodd ei ffugenw i 'Ab Ithel' oherwydd, medd ysgrif arno yn Y Gwyddoniadur, ei fod yn hanfod o Ithel ap Robert Goch o Degeingl, archddiacon Llanelwy yn 1375.5 Tua diwedd ei oes ychwanegodd ei ffugenw at ei enw priodol-ac ysgrifennai ei enw fel John Williams ab Ithel. 1. Y örytnon v, 18. 2. loc. cit. 3. loc. cit. 4. Y Geninen 1883, 180. 5. Y Gwyddoniadur x, 175. CYFROL CXXIII. RHIF 527. EBRILL, 1968 D