Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRFODWYR A'R IESU Yn ddiweddar, wrth ddarllen cyfrol y 'dirfodwr' Karl Jaspers, The Great Philosophers' (cyfrol, gyda llaw, ac yn ei throsiad i'r Saesneg, 1962, Rupert Hart-Davies, sy'n rhan yn unig o gyfrol fwy o'i eiddo mewn Almaeneg, 'Die grossen Philosophen,' 1957), tyn- nwyd fy sylw yn fyw iawn at ran gyntaf y gyfrol, sy'n cynnwys adran neu is-adran am yr Iesu fel un o'r 'unigolwyr' arloesol a chyn- athronyddol. Y tri arall o'r 'arloeswyr' hyn a drafodir ganddo yw Socrates, Bwda a Chonffwsiws. Cyfeiriaf at y peth nid oherwydd y barnaf fod dim sy'n syfrdanol o newydd yn ei chynnwys, gan fod y rhan fwyaf o'i dyfarniadau ers tro byd yn wybyddus, ond o gofio safle bwysig Jaspers ymhlith y 'dirfodwyr' cyfoes tybiaf fod iddo ddiddordeb digon arbennig i mi geisio tynnu rhyw sylw ato. Tybiais y gallwn hefyd gynnwys, yn y drafodaeth gyfan, gyfeiriad at waith dirfodwyr diweddarach, megis Dietrich Bonhoeffer, ac eraill gydag ef, a cheisio gweled neu ddarganfod, peth mwy diddorol efallai, ryw gyswllt rhyngddynt. Ond yn gyntaf-Kar1 Jaspers a'r Iesu-fel y ceir y peth yn y gyfrol y cyfeiriwyd ati ar y dechrau. Rhanna Jaspers yr is-adran yn bedair rhan (1) Yr Iesu a'i Neges; (2) Ei Fywyd a'i Hanes; (3) Ei Bersonoliaeth (Sylfaenol); (4) Ei Ddylanwad. Ym mhob un o'r is-raniadau hyn y mae manylion y byddai'n werth efallai rhoi sylw iddynt, ond mentraf awgrymu y gall braslun ohonynt, mor gryno ag sydd ddichonadwy, gyrraedd yr un pwrpas. (1) Yr Iesu a'i Neges. Efallai y byddai rhai yn anfodlon mai â'r mater hwn y cychwyn Jaspers ei holl drafodaeth. Onid gwell fyddai cychwyn gyda'r lianes,' neu hyd yn oed y 'bersonoliaeth'? Ni welaf chwaith ei fod yn nodi'n fanwl y rheswm am y dewis hwn, oddieithr ei gred bersonol (gudd) ei hun mai hwn oedd ac yw un o brif-ryfeddodau yr 'hanes' a'r holl bortread. I Jaspers, yn gwbl sicr, yr allwedd i bob dehongliad o lianes' yr Iesu yw 'dadleniaeth,' ar batrwm Schweitzer a Werner ac eraill tebyg. Credai'r Iesu yn y 'Diwedd Mawr,' a thröai popeth ar echel y gred hon. O'r peth hwn hefyd fe geir y peth arall gwrth-