Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARGYFWNG YSBRYDOL DYN HEDDIW GELLIR dweud fod dyn yn y ganrif hon wedi cynefino ag argyfyng- au. Dyna, ond odid, un elfen yn ei hanes sy'n dwysáu ei argyfwng. Ffaith arall sy'n cyfrannu'n helaeth iawn at ddwyster y sefyllfa ddynol yw'r ehangu sydd ar fyd dyn, a hynny'n digwydd trwy ei blwyfoli. Daw'r newydd i'n clyw ar fyr o dro am ddigwyddiadau argyfyngus a oddiweddodd ein cyd-ddynion ym mhellafoedd byd; a thrwy fynych glywed hyn cynefinwn yn feddyliol â'r cwbl. Mae'n wir fod ystyr mewn dweud fod dyn mewn argyfwng ym mhob oes a chyfnod yn ei hanes, oblegid dyn mewn argyfwng yw ef oher- wydd yr hyn yw yn ei hanfod. Edrychwn ychydig yn fanylach ar eiriau'r testun. Y mae dwy elfen yn ystyr y gair argyfwng, sef yr elfen o farn a'r elfen o ddewis. Geill argyfwng fod y pwynt hwnnw yn natblygiad afiechyd pan ddigwydd y newid sy'n penderfynu adferiad neu farwolaeth y dioddefydd,­trobwynt y nawfed dydd, fel y dywedir. Yn nigwydd- iadau hanes golyga'r elfen dyngedfennol yn eu deunydd y peth sy'n penderfynu gogwydd a chyfeiriad bywyd byd dynion er gwell neu er gwaeth. Rhyw bwynt ydyw pryd y mae llif bywyd y byd fel petai'n newid ei sianel. Yr ydym yn yr adwy hon heddiw. Clywsom ddigon o weithiau bellach ein bod yn byw megis yng ngwyll diwedd un cyfnod a thoriad gwawr un arall yn hanes dyn- oliaeth. Yn awr, beth a olygwn wrth y gair 'Ysbrydol' yn ein pwnc? Cymerwn fel ystyr-fod a wnelo'r amgylchiadau yr ydym ynddynt â bywyd dyn yn ei gyfanrwydd. Hynny yw, â Duw a dyn gyda'i gilydd. Mewn geiriau eraill, y mae'r amgylchiadau sy'n cwmpasu dynion yn ail hanner y ganrif hon yn ymwneud ag ystyr a diben bywyd ei hun. Ysgydwir bywyd i'w seiliau a chofleidia'r argyfwng holl amryfal ac amrywiol gylchoedd bywyd y byd. Fe arwain hyn ni i ofyn cwestiwn arall, sef pa bryd y gwawriodd heddiw? Gwyddom nad un ffrydlif o'r mynydd sy'n cronni'r llyn yn y dyffryn ond amryw o ffrydiau, a phob un yn tarddu ac yn llifo o'i chwr ei hun yn esgair y mynydd. Nid un digwyddiad moel a di-gyswllt chwaith sy'n patrymu cyfnod mewn hanes. Yn wir, nid hawdd yw ffinio heddiw a heddiw mor amhenodol, ac yntau'n cynnwys pob doe, yfory a thragwyddoldeb ei hun. Fod bynnag,