Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRANIAD DIRFODAETH SYLWODD H. D. Lewis "ar fethiant trist a phaganiaeth helaeth y mudiad hwn," ond gallai Paul Tillich ddweud "Theology has received tremendous gifts from existentialism, gifts not dreamed of fifty years ago or even thirty years ago." Rhydd y barnau hyn ffiniau ddigon eang i geisio diffinio cyfraniad dirfodaeth i'r meddwl Cristnogol. Tad ysbrydol y mudiad yw Soren Kierkegaard (1813-55). Ef a heuodd had y ddirfodaeth fodern, mewn canlyniad i'w adwaith radicalaidd i athroniaeth ddelfrydol Hegel ac i grefydd gyfun- drefnol ei gyfnod. Haerai Hegel fod y gwirionedd yn gyffredinol ac felly'n wirionedd gwrthrychol. Dadleuai Kierkegaard fod y gwirionedd Hegelaidd yn haniaeth noeth ac yn ddieithr i'r unigolyn ac felly'n amherthnasol. Rhaid oedd i'r gwirionedd fod yn oddrychol meddai Kierkegaard, yn wirionedd a ellid ei wireddu trwy brofiad yr unigolyn. Gwelai yn yr eglwys gyfundrefnol y gwirionedd Cristnogol wedi ei gyffredinoli a'i haniaethu i'r fath raddau ag i fod yn amherthnasol a diystyr i'r unigolyn. Nid Crist- nogion cyfrifol oedd aelodau'r eglwys, ond pobl yn cuddio tu ôl i label Cristnogaeth. Oherwydd fod yr aelod eglwysig mor ddieithr i'r gwirionedd, teimlai unigrwydd, ofn a phryder. Yn ôl Kierke- gaard, dyma fan cychwyn y daith ymchwil am y gwir hunan ger- bron Duw. Y cam cyntaf ar y daith oedd dewis, neu gymryd risg ffydd, yng ngoleuni'r paradocs fod bywyd yn gymysgedd o'r meidrol a'r anfeidrol. Yr oedd Kierkegaard yn rhagdybio bodolaeth Duw, a'r cwestiwn sylfaenol iddo ef oedd nid pa beth yw dyn? ond pa beth yw bod yn Gristion? Ni ddaeth ei syniadau yn hysbys yng ngorllewin Ewrop hyd ddechrau'r ganrif hon, pryd y rhoed cig a gwaed i esgyrn sychion dirfodol Kierkegaard gan Heidegger a oedd yn anffyddiwr a Karl Jaspers a oedd yn agnostig ám y rhan helaethaf o'i oes. Mynegiant cwbwl seciwlar a gafodd y mudiad dirfodol ar y dechrau. "Pa beth yw dyn?" oedd cwestiwn y rhain, ac nid "pa beth yw bod yn Gristion?" Credant fel Kierkegaard mai gwneuthur dewis yw cychwyn y daith ddirfodol, ond iddynt hwy, y paradocs oedd fod bywyd dyn yn gyfyngedig, ac eto yr oedd dyn yn rhydd i ben-