Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y mae Crist y bregeth yn bwysicach yng ngolwg Bultmann na Iesu hanes. Rhydd yr un driniaeth i'r dogmâu, gan eu dehongli fel cyffesiadau'r apostolion cynnar. Dywedant gymaint am y dynion a'u llefarodd ag am Grist ei hunan. Nid oherwydd y ddwy natur, ond oherwydd yr hyn oedd, a'r hyn a wnaeth yr Iesu, y gelwid ef yn Grist, Mab y Duw byw. Er bod perygl dyneiddio'r dogmâu'n llwyr a dadfythu Duw ei hunan, a pherygl i gymylu'r ffin rhwng myth a hanes, fe wnaeth Bultmann gymwynas fawr, drwy roi mynegiant cyfoes i efengyl Crist; a chadwodd y dogmâu rhag y crastir academaidd. Ynghlwm wrth y mynegiant dirfodol o'r efengyl y mae'r iaith. Yn ein cyfnod, nid yw iaith crefydd a'i thermau megis gras a phechod, yn ddealladwy ond i'r cylchoedd crefyddol yn unig. Rhoddodd dirfodaeth arwyddocâd cosmig i dermau esoterig, gan roi tir cyffredin dan draed y crefyddol a'r anghrefyddol. Y mae ffydd eisoes wedi ei diffinio fel y fenter o orfod dewis yn barhaus. Y mae cyffes y dirfodwr 'I am separated' yn rhoi ystyr i bechod a fyddai'n dderbyniol i'r crefyddol a'r anghrefyddol fel ei gilydd. Diffinnir gras fel y gobaith a ddatguddir i ddyn pan dyr y wawr wedi nos ddu, pan wynebir dyn â rhyfeddod bod yng nghysgod angau, pan ddatgelir gobaith wedi anobaith llwyr. Ceir profiad o ras pan ymdeimlir â harmoni bod neu fiwsig bodolaeth. Yr un modd gyda'r termau crefyddol 'cnawd' ac 'ysbryd,' rhoddir arwyddocâd cyffredinol iddynt. Nid y pethau materol, corfforol, creedig a olygir wrth bethau'r cnawd, ond y cilio ar ran dyn oddi wrth y dewis, a'r dianc rhag cyfrifoldeb: a'r rhai sydd yn rhodio yn ôl yr ysbryd yw'r rhai sydd yn bodoli'n ddilys, yn derbyn y cyfrifoldeb o ddewis, er gwaethaf y risg sydd ynghlwm wrth hynny. Her yr efengyl i'n hoes, meddai Bultmann, yw y gellir gwneuthur y dewis ar sail bodolaeth ddilys a ddisgrifir ym mhregethau'r Eglwys Fore, yn arbennig ar sail pwyslais Paul ar farw gyda'r Iesu ac atgyfodi gydag ef. Y mae'r iaith wedi bod o fudd cyfoes drwy gynhyrfu'r dyfroedd diwinyddol, a chreu diddordeb newydd mewn diwinyddiaeth. Cyfeddyf David Cairns, sydd yn gynnil iawn ei ganmoliaeth i'r ddiwinyddiaeth ddirfodol, fod yr iaith newydd, bodolaeth ddilys ac annilys yn un o'r cyfraniadau gwerthfawrocaf a gafodd Cristnogaeth yn y dyddiau hyn. Dichon nad ydym eto wedi medi holl ffrwyth y meddwl dirfodol