Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yng ngwir achosion rhyfel. Y mae 'Jingoes' i'w cael yn y prifysgolion yn ogystal ag yn y Lleng Brydeinig! (b) Yr hyn a ganfyddir yng nghymeriad y gwahanol wledydd lle mae'r werin bobol at drugaredd unbenaethiaid uchel- geisiol. Oni chredai Tom Paine y byddai difodi'r frenhiniaeth yn rhoi terfyn ar ryfeloedd am byth? Y mae nifer y brenhinoedd yn mynd yn llai bob blwyddyn, ond y mae nifer yr unbennau yn cynyddu'n barhaus. O ddeunaw ar hugain o wledydd a sicrhaodd eu hannibyniaeth yn gymharol ddiweddar ar gyfandir Affrica, y mae naw ohonynt eisoes wedi cefnu ar unrhyw drefn ddemocrataidd, a cheir yr union rai a gondemniai'r imperialaeth a fu, yn gweithredu mor uchelgeisiol a thrahaus â'r gormeswyr gynt. Eithr daw peth cysur a gobaith o weled yr â beunydd yn fwy anodd i argyhoeddi'r werin bobol yn y gwledydd democrataidd fod rhyfel yn ffordd effeithiol o setlo anghydfod, ac fe ddyfynna'r awdur eiriau Tawney fod rhaid bellach galw rhyfel yn grwsâd neu fe'i ystyrir yn drosedd! Yn anffodus, nid oes nemor ddewis rhwng y pwerau mawrion yn hyn o beth. Os Hitler a'i gynheiliaid oedd yn gyfrifol am anfadwaith erchyll Belsen a Buchenwald, Trueman y gwerinwr (sic) a roddodd y gorchymyn i ollwng y fom atomig gyntaf ar y byd. Yr hyn sy'n boenus o amlwg ydyw aneffeithiolrwydd protest y werin hyd yn oed lle y caiff gyfle i'w mynegi. Er i ni gydnabod mai traed o glai sydd i bob cyfundrefn, mynn yr awdur y dylem gydnabod ein dyled i Marx am y dadansoddiad gwyddonol a gwrthrychol (?) cyntaf o'r sefyllfa economaidd sy'n arwain i ryfel. Eithr y mae'n awgrymiadol iawn nad yw galw cyfun- drefn yn sosialaidd yn golygu mwyach y gall gydweithio ag un arall o'r un gwehelyth. Gellir yn wir fynd ymhellach na'r awdur a gofyn, Onid yw Rwsia ar hyn o bryd ar delerau gwell â Ffrainc nag â Tseina? (c) Y ffaith syml ond trist na chafwyd hyd yma beirianwaith digon effeithiol i rwystro rhyfel. Wedi ystyried yr hyn y ceisiwyd ei wneud hyd yma, erys y cwestiwn A lwyddodd y pwerau mawr a bach i gyrraedd erbyn hyn y mesur hwnnw o aeddfedrwydd a wna godi rhyw sefydliad cyd-wladol yn gwbl anochel? Nid yw'r awdur yn cyfeirio at ffaith nad oes a wnelo hi ddim â rhyfel niwcliar fel y cyfryw, sef y drafnidiaeth mewn arfau rhyfel lle ceir cwmniau yn barod i werthu arfau i'r gwahanol wledydd yn ddi-wahân. Yn yr ail bennod y mae'r awdur yn delio â pheryglon moesoli wrth drafod cwestiwn mor ddyrys â heddwch y byd. Cymer barn foesol yn gyffredin un o ddau lwybr; i rai nid yw'r ddeddf foesol namyn yr hyn a awgrymir gan y gair deddf, sef, cydymffurfio â rheolau arbennig-ysgolfeistr i gadw'r plentyn mewn trefn ydyw; i eraill, golyga ymdrechu i sylweddoli delfryd neilltuol, gan bwysleisio'r díben sydd mewn golwg yn hytrach na'r weithred ynddi'i hun. Anaml y ceir y ddau ddosbarth i gytuno â'i gilydd, a chydnabod fod lle i'r naill a'r llall. Gwelwn hyn yn glir ym myd gwleidyddiaeth gydwladol. Yn un peth, cyfyd y cwestiwn o hawl cenedl i'w hannibyniaeth, a'r mesurau y dichon y byddai'n rhaid iddi eu cymryd i'w diogelu. Y mae hefyd bron yn amhosibl datgysylltu'r agweddau moesol oddi wrth ystyriaethau technegol ac economaidd o bob math. E.e., dadleuir ei bod wedi dod yn bryd bellach i Brydain gilio'n llwyr o bob man i'r dwyrain o Gamlas Sues, ond ni ellir gwadu nad yw hynny'n codi llu o broblemau ynghylch tynged gwledydd