Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eraill fel yr India a Malaysia, a'r posibilrwydd i Brydain gael ei chyhuddo o ymryddhau o'i hymrwymiadau ar dir hunan-les, heb sôn am y gwyn y byddai hynny yn rhoi llaw rydd i Gomiwnyddiaeth, yn unol â'i hideoleg, geisio meddiannu'r gwledydd yr ymadawyd ohonynt. Perygl parhaus y moesolwr ydyw anwybyddu'r ffaith na ddichon y gwirionedd i gyd fod yn fonopoli un ochr mewn unrhyw anghydfod. Cydnabyddir yn bur gyffredinol bellach, e.e., fod yr ildio diamod a wnaed yn amod terfynu'r Ail Ryfel Byd wedi bod yn un o fethiannau moesol mwyaf y Cynghreiriaid. Ond a oes unrhyw arwydd fod y wers wedi'i dysgu pan feddylir am y sefyllfa gyfoes yn Ne Affrica a Fietnam? Na, yr un yw'r gân o hyd: "Dim ond un rhyfel bach eto, ac yna fe allwn ail-adeiladu paradwys" — fel y dywedodd Herbert Butterfield, yr hanesydd (Christianity and History). Cytuna'r awdur hefyd â Richard Neibuhr pan ddywed fod gweithredu'n gyfrifol-bron na ddywedem, yn ddirfodol- yn gymorth i osgoi'r ddeuoliaeth rhwng y technegol, ar y naill law, a gyn- rychiolir gan yr arbenigwyr gwyddonol na fynnant na delfrydau na dyfarn- iadau moesol, ac, ar y llaw arall, y moesol gyda phwyslais ar ddelfrydiaeth uchel-ael na wna nemor ddim ond cyfiawnhau a pharhau cyflwr o elyniaeth. Yn y cyfwng hwn y mae'r awdur yn credu fod gan Gristionogaeth gyfraniad arbennig; dyna thema ei drydedd bennod o dan y teitl Realaeth y Beibl, sef y gyfraith a ddaeth trwy Moses a'r gras a ddaeth trwy Iesu Grist. O'i deall yn glir rhagorai'r gyfraith Iddewig, y Torah, a'r eiddo Groegaidd, y nomos, trwy fod yn fwy na gorchymyn yn unig, gan y golyga holl gynnwys datgudd- iad Duw am ei natur a'i bwrpas ef ei hun. Cyhoeddai nid yn unig gymeriad Iawe a'i berthynas â'i fyd, ond hefyd y math ar fuchedd a sicrhâi fywyd mwy helaeth a buddiol nag a geid mewn unrhyw ffordd arall. Oddi wrth ei weithgareddau y gellir gwybod am gymeriad Duw yn y Beibl. Nid baich y bwriedid i'r Ddeddf fod, ond llusern i draed-yr oedd yn felysach na mêl ac yn fwy dymunol nag aur. Nid galw am gydymffurfio â deddfau arbennig a wnâi Proffwydi'r H.D. ond am adwaith gyfrifol i sefyllfa arbennig, ac fe gondemniai'r Iesu yntau yr ymgais i ddehongli'r gyfraith yn nhermau rheolau manwl a beichiau anodd eu dwyn'. Golygai wrth sôn cymaint am Deyrnas Dduw nid buddugoliaeth Iddewig ar Rufain, ond ewyllys rasol a gwaredigol Duw yn cymodi dynion ag ef ei hun ac â'i gilydd. Y mae'r 'newyddion da' yn dyfod o flaen unrhyw ofynion moesol ac yn wir yn sail iddynt. Y mae lle arbennig i faddeuant yn y traddodiad Beiblaidd ac fe ddylid ei gymhwyso i'r byd cyfoes. Haws condemnio apartheid yn Ne Affrica nag yn suburbia! Yn y bedwaredd bennod lle'r ymdrinia â pherthynas Cristionogaeth a Grym, y mae'n amlwg y cytuna'r awdur-er na ddywed hynny-â Butterfield na ddylid cymryd golwg or-optimistaidd ar y natur ddynol, ac nid gwaith hawdd ydyw deall perthynas gweithred yr Iesu yn golchi traed ei ddisgyblion â byd gwleidyddiaeth rym. Nid Cristion chwaith, ond Comiwnydd, sef Karl Marx, a ddadlennodd orau y ffactorau grym sydd ar waith yn y gymdeithas ddiwydiannol, a chwerw fu'r ymosod arno am wneud hynny. Eithr y broblem yn awr ydyw nid pa fodd i gael gwared â'r grym anhygoel a feddwn mewn oes niwcliar-ni ellir troi'r cloc yn ôl-ond pa fodd i'w ddefnyddio i'r amcan- ion gorau.