Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ac i greu byd mwy diogel i fyw ynddo. Mewn gair, rhaid i ffurf unrhyw gymdeithas dderbyniol i bawb fod yn gyfryw ag i ddiogelu hawl a chyfrifol- deb dyn i roi'i ateb ei hun i sialens bywyd yn hytrach na chael ei gatrodi i ryw unffurfiaeth dotalitaraidd. Rhaid cydnabod mai ffaeledig ydyw ac a fydd pob cyfundrefn, boed grefyddol neu wleidyddol. Eithr dylai'r ffaith fod aml i frwydr wedi'i hennill dros ryddid a chyfiawnder ar hyd y canrifoedd ein symbylu i chwilio'n ddyfal ac yn ddwys am yr allwedd a ddichon agor rhyw ddrws arall i fwy o gyd-ddealltwriaeth a chydraddoldeb. Rhan bwysig o werth y llyfr hwn ydyw ein hatgoffa o'r gosodiad cyfarwydd hwnnw mai pris heddwch ydyw gwyliadwriaeth barhaus. Y Coleg Diwinyddol, Aberytwyth R. H. Evans Gwilym H. Jones, Arweiniad i'r Hen Destament (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1966). tt. 409. 22/- CROESAWN yr ail gyfrol hon mewn cyfres a lunnir yn fwyaf arbennig ar gyfer y nifer cynyddol o fyfyrwyr sy'n dymuno astudio'r Ysgrythurau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, wrth gwrs, mae'n gyfrol i bob un sy'n caru'r Ysgrythurau, ac yn drysor o wybodaeth am gefndir llyfrau'r H.D. Rhagarweiniad i'r maes ydyw, a'i phwrpas felly yw agor y maes i'r efryd- wyr, er mwyn hwyluso'r gwaith o ddarllen yr H.D. ei hun: oherwydd dyna'r drafferth, sef cael gan fyfyrwyr eu trwytho eu hunain yn y Gair yn hytrach na'u bod yn gwybod llawer am y Gair. Ni ddylai neb fodloni ar y rhag- arweiniad ar ei ben ei hun. Yn gymaint ag y gall symbylu pobl i droi at y llyfrau eu hunain y bydd yr "Arweiniad" hwn yn llwyddo yn ei amcan. Da felly yw'r ffaith nad yw'r awdur yn rhoi gormod o grynodeb o gynnwys pob llyfr. Llyfr i droi ato fydd hwn wrth i ni ddarllen ac astudio gwahanol lyfrau'r H.D. Y teitl a roddir i Ran I ydyw "Arweiniol," a cheir Rhagarweiniad sy'n rhoi "trem ar feirniadaeth" ac sy'n trafod method ac amcan gwaith o'r math hwn. Yna fe ddilyn penodau ar y Canon a Thestun a Chyfieithiadau'r H.D. Cyfeirir yma at y newid yn agwedd ysgolheigion yn gyffredinol tuag at y testun Hebraeg rhagor yr hyn a geir ym Meibl Kittel "Yn awr, fodd bynnag, nid yw'r beirniaid mor barod i gynnig cyfnewidiadau neu welliannau, a thueddir i gadw at y testun Masoretaidd hyd y mae hynny'n bosibl" (t. 43), a cheisir goleuni pellach oddi wrth yr ieithoedd cytras, y cyfieithiadau o'r H.D., a'r llawysgrifau sy'n cynnwys erbyn hyn lawer o Qumran. (Gyda llaw, llithrodd gwall i mewn i'r drafodaeth ar lawysgrifau Beiblaidd Qumran: ar dud. 35, y sgrôl gyntaf o lyfr Eseia yw 1 Q Isa, wrth gwrs, ac nid 1 Q Isb: gw. B. J. Roberts yn A Companion to the Bible (1963), tt. 152-3). Wrth ddarllen yr adran hon sylweddolwn faint cyfraniad yr Athro BIeddyn Jones Roberts ir meysydd hyn. Ef hefyd a roddodd i ni gyntaf yn Gymraeg astudiaeth lawn o Batrymau Llenyddol y Beibl, a drafodir nesaf. Dyma arwydd arall o'r cyfnewidiadau mawr yn astudiaeth yr H.D. yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Pwysir yma'n bennaf ar waith ysgolheigion o'r Almaen a Llychlyn, y Beirniaid Ffurf. Pwysleisiant le'r traddodiadau llafar sy'n gorwedd y tu ôl i'r gair ysgrifenedig, a rhannant y deunydd yn fathau gwahanol yn ôl ei ffurf a'i gefndir.