Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD YN YR ARDD O rosyn hardd yn hofran mewn perffeithrwydd- paid ag agor mwy. Gwn fod yr ardd a'i holl aeddfedrwydd yn d'annog fwyfwy i noethi dy wyneb a chwythu peraidd nwy yn llatai at yr haul yn ei ddisgleirdeb. Ond nac agor iddo Erfyniaf arnat-paid O'r awyr las glir fe'th ladd cyn hir, ac ynghanol dy hedd try dy wely yn fedd. Cuddia dy wyneb rhag marw! CONNEMARA (Dywedir na lwyddodd arlunydd erioed i gyfleu union liwiau Connemara) Mwy anghredadwy gwyrth dy liwiau di Na gwyrthiau ffug y cerdyn post a'r llun. Trysoraist holl fachludoedd bywyd dyn A'i wawroedd glas, a'u taenu gerbron lli Sy'n dwyn rhyfeddod cewri mwyn â rhaff Yn trechu'r don. Mae yma niwloedd hud A ddena'r pell yn agos mewn hen fyd O dduwiau cudd sy'n erchi twyllo'r craff. Oferedd fu'r arlunio gwelw erioed- Fel ceisio dofi creigiau'r tir â rhych. Ni threcha ystum llaw dy waliau sych, Na dyfnder mawn sy'n fyw heb gysgod coed. Bydd grym y werin ddoeth yn chwyth dy dir Yn gwarchod dy gyfrinach leddf yn hir. GILBERT RUDDOCK CYFROL CXXIII. RHIF 528. GORFFENNAF 1968