Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PURO GWAtí (Diffiniad Euros Bowen o hwer y gerdd) Y MAE pethau rhyfedd yn digwydd yng Nghaerfyrddin.1 Mewn seiat yn Eisteddfod yr Urdd yno y llynedd gofynnodd gwr ifanc cyfoed â mi i dri bardd, Beth yw gwerth barddoni yn yr oes dechnegol hon? Gofyn yn gydymdeimladol a wnaeth. Nid gwneud cais, fel un arweinydd o'r llwyfan, am gerdd i grisialu'n ysbrydiaeth lwyddiant aelod seneddol newydd y sir. (Nid yw pethau mor syml â hynny.) Ond gweld tu hwnt, ac adnabod ystyr ymdrech Mr. Gwynfor Evans mewn termau llenyddol. Deallodd y gwr fod y creadigol yn fach a'r dinistriol yn anferth, deallodd yr arllwysir amharch ar leiafrifoedd gan ddemagogau'r mwyafrifoedd, a gofyn- nodd i feirdd Cymraeg faint o boen oedd hynny iddyn nhw. Mi geisiaf fi roi darn o ateb i gwestiwn trymlwythog fy nghydfyfyriwr. Rhaid cyfaddef fod hyd yn oed y bardd ifanc astrus yn poeni weithiau a fydd ganddo gynulleidfa, yn awr yn fwy nag yn dragywydd. Eithr credaf y dylai boeni mwy am sefyllfa'r gynull- eidfa bosib sydd iddo. Fel pob creawdwr yn hunanfalch, 'rwyf i wedi dioddef aml hunllef wrth orffen cerdd, yr hunllef sy'n codi'n octopus o gwestiynau fel y rhain: pa les, tybed, sydd mewn treulio mis yn saernïo cywydd a'r rhelyw a gwell ganddynt edrych ar deledu Seisnig na deall dawn cynghanedd? Pa werth barddoni ar gyfer hanner cant deallus, trwytho iaith mewn trosiadau, a'r Gymraeg honno yn ei noethni yn prysur lastwreiddio ar dafodau ei deiliaid? Yn wir, pa werth creu dim a holl fateroliaeth ac unffurfiaeth gormesol y Gorllewin yn ceisio gwasgu'n ddiddim y tipyn clwstwr geiriau? Y mae pob cwestiwn megis braich i'r un cwestiwn canolog uchod. Heddiw daw'r cof am is-etholiadau Caerfyrddin a'r Rhondda Fawr â mi at fy nghoed. Nid fod annibyniaeth ar y gorwel, nac Afallon yn hwnnw. Dim ond fod y baneri gobaith sydd ynom ni erbyn hyn yn tyfu'n gyfarwydd â chyhwfan. Gweld arweinydd yn gwenu'n llygatgul fydd y rhan fwyaf ohonom, a chlywed ei bregeth anwreiddiol ond digyfnewid fod gennym hawl i 'senedd, barc 1 Seiliwyd yr erthygl ar ddarlith a draddodwyd yng Nghynhadledd Taliesin, Pasg 1967.