Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAE'R gerdd hon yn perthyn i'r dosbarth delweddog o ganeuon a luniodd Gwenallt am anifeiliaid, y rhai megis "Y Ffwlbart," "Y Sarff," "Yr Anifail Bras" a'r "Draenog," sy'n mynegi ffieidd-dod ac iseldra pechod dyn mor wahanol i dynerwch R. W. Parry tuag at ei lwynog a'i heffrod. Fe ellid dychmygu darllenydd o ryw fath yn medru darllen y gerdd hon fel pe na bai hi'n ddim mwy na disgrifìad synhwyrus o greadur gan fod ynddi ddarlunio bachog a byw ar lefel yr ymateb arwynebol yn unig. Hynny yw, gellid cymryd fod y bardd wedi cael ei daro gan y Twrch Trwyth yn chwedl Culhwch ac Olwen, a bod hwnnw, wrth fod y ffansi'n bwydo arno, wedi tyfu'n anghenfil arswydus yn ei feddwl. Ond y mae Gwenallt wedi rhoi digon o gyfarwyddyd i ni weld arwyddocâd pellach yn y gerdd; a hyd yn oed yn y pennill cyntaf, esbonnir hanfod y Twrch yn blwmp ac yn blaen: 1 D. Gwenallt Jones, Ysgubau'r Awen (Gwasg Gomer, Llandysul) 18, IV Y TWRCH TRWYTH Cerdd gan D. GWENALLT Jones CREADUR gwrychlyd, cyfrwys, call, A'r ellyn ar ei ael, Fe'i lluniwyd ef o'r nwydau dall Ym mhridd ein natur wael. Yn niffeithleoedd drain a brwyn Y mae ei sgêm a'i sgwlc, Ac anodd yw ei ddal â'r ffrwyn A'i droi i dŷ neu dwlc. Mi heliaf ef trwy'r pridd a'r don  min fy saethau llym, Ond nid yw saeth na gwayw-ffon Yn mennu arno ddim. Mae'r tlysau rhwng ei ddwyglust ef Yn cyffro'n nwyd a'n gwanc, Ond gan ei wrych a'i wenwyn ef Y lladdwyd llawer llanc. Pan rydd ei ben bwystfilaidd, cas Ar lin ei phurdeb hi, Trywanaf ef â'm cleddyf glas, A rhed ei waed yn lli.1 Fe'i lluniwyd ef o'r nwydau dall Ym mhridd ein natur wael.