Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU Dewi Z. Phillips (Gol.), Saith Ysgrif ar Grefydd (Gwasg Gee, Dinbych, 1967), tt. 138, 12/6. Y MAE'R saith (rhif priodol yn y cyswllt hwn) a gyfrannodd i'r gyfrol dan sylw wedi dilyn eu diddordebau arbennig eu hunain, ac er y gellir gweld ambell gysylltiad yma ac acw rhwng y gwahanol ysgrifau nid oes patrwm gorffenedig yn ymddangos yn y llyfr fel cyfanwaith. Dengys y gyfrol yn eglur iawn y sefyllfa gymysg sydd yng Nghymru heddiw, a chred y Golygydd fod gwerth yn hynny, ond gwelaf i wahaniaeth sylfaenol rhwng amrywiaeth a chymhlethdod mewn trafodaethau ar un wedd i'r pwnc ac amrywiaeth a chymhlethdod mewn trafodaethau ar wahanol agweddau. Nid wyf yn meddwl fod yr ail gymhlethdod hanner mor ffrwythlon â'r gyntaf. Am y llyfr fel uned y dywedaf hyn, ac nid am yr unedau unigol a gynhwysir ynddo. Carwn nodi yma wrth fynd heibio fod Mr. Phillips wedi golygu cyfres arall o ysgrifau yn Saesneg, dan y teitl Religion arul Understanding, sy'n debyg o amlygu y math o amrywiaeth y cvfeiriwyd ato, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at gyhoeddi'r llyfr. Gesyd Dr. R. Geraint Gruffydd ei safbwynt ef yn y traethawd cyntaf, 'Moriae Ecomium; pwt o bregeth,' a sylfaenir ei sylwadau ar gynnwys penodau agoriadol yr Epistol Cyntaf at y Corinthiaid. Y mae'r epistemeg Gristnogol yn rhan annatod o'r gred Gristnogol; trwy gredu yn y Crist croeshoeliedig, ffolineb i'r Groegwyr a thramgwydd i'r Iddewon, y deuwn i adnabod Duw. Nid oes adnabyddiaeth ohono oddi allan i ffiniau cred, ac nid oes obaith i'r deallus heb iddo newid ei feddwl a'i gyflwr. 'Wedi ymwrthod â'i ddeall fel cyfrwng digonol i'w ddwyn at Dduw, ac wedi derbyn yn ufudd y gair am Grist a'i gredu, fe gaiff yr ymofynnydd fod ei ddeall bellach wedi ei adfer iddo gydag egni a chyfeiriad newydd.' Cododd nifer o gwestiynau eu pennau wrth i mi ddarllen y traethawd. Beth yw'r gwahaniaeth ystyr rhwng y termau yma, rheswm, meddwl, deall? Ni thybiaf eu bod yn gyíyslyr. Ac os gall credu ddylanwadu ar ddeall dyn, onid yw'n bosibl i ddeall effeithio ar gred dyn? Nid yw pob ymofynnydd yn anghrediniwr, ac nid yw pob gŵr deallus yn ymffrostgar. Ond tybiaf mai un o'r cwestiynau mwyaf dyrys sy'n wynebu'r pregethwr heddiw yw, beth yw ystyr credu yn Nuw? Nid mater o ddadlau ynghylch y gwastad dwyfol, Duw neu Baal, Affrodite neu Grist, y Meseia a ddaeth ai ynteu y Meseia sydd i ddyfod, yw hi bellach, ond mater o ateb y cwestiwn, a oes ystyr i'r ddadl o gwbl? Fy nheimlad yw fod ffordd yr awdur o fynd ati yn rhagdybio sefyllfa Ue ni ddaeth i feddwl neb i ofyn y cwestiwn hwn, hynny yw, sefyllfa afreal. Yn yr ail draethawd, 'Crefydd a Gwyddoniaeth,' gan Dr. Gareth Evans, cawn ddadansoddiad o'r gwrthdaro rhwng crefydd a gwyddoniaeth yn y gymdeithas gyfoes. Nid ar lefel athronyddu a rhesymegu y mae'r ymrafael ond 'ar lefel is a mwy cyntefìg yn nhymeredd meddwl yr oes.' I'r mwyafrif mawr aeth gwyddoniaeth yn wrthrych ffydd a gobaith oherwydd daeth gallu anhygoel yn sgîl ei darganfyddiadau, a gwelir y duedd hon yn glir mewn