Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

meddwl, fel y gobeithiaf imi ddangos. Ac eto, os nad wyf yn camsynio, yr un yw'r 'myfi.' O leiaf, byddai'n taro'n od iawn pe dywedwn mai myfil a ddechreuodd a myfi2 a orffennodd gyfansoddi yr adolygiad. Y mae angen cywiro'r ffurfiau ar vacuum (t. 24) a hupocrisis (t. 116). Diolch yn gynnes i'r Golygydd a'i gyd-ysgrifenwyr am gyfrol sy'n datgelu amlochredd a chyfoeth y maes. ISLWYN BLYTHIN Coleg y Brifysgol, Bangor W. R. Jones, Bilingualism in Welsh Education (Gwasg Prifysgol Cymru, Caer- dydd, 1966), tt. 202, pris 18/ STORI drist yw hanes safle'r Gymraeg mewn Addysg yng Nghymru, oher- wydd yn ein cyfnod ni-yr ugeinfed ganrif-yr aethpwyd ati o ddifrif am y tro cyntaf i roi i'n hiaith ei lle haeddiannol yn addysg Cymru ac i sefydlu ysgolion arbennig er mwyn rhoi i'n plant wreiddiau yn iaith a diwylliant traddodiadol ein gwlad. Adrodd hynt a helynt yr iaith Gymraeg yn addysg Cymru er cyfnod y Ddeddf Uno a wna Mr. W. R. Jones yn rhan gyntaf ei lyfr ac adrodd yr hanes hwnnw'n gryno a hynod effeithiol. Bydd yr hanes yn dderbyniol iawn gan bawb sydd yn ymddiddori yn yr iaith Gymraeg ac yn ei safle ym myd addysg. Rhannodd yr awdur ei stori rhwng dwy bennod­- y gyntaf yn sôn am le'r Gymraeg yn yr ymdrechion addysgol crefyddol a wnaed o bryd i'w gilydd o ddyddiau 'Welsh Trust' hyd gyfnod Ysgolion Sul Thomas Charles, a'r ail yn sôn am le'r iaith yn yr ysgolion dyddiol yng Nghymru o ddyddiau sefydlu'r ysgolion dyddiol cyntaf ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf hyd ein dyddiau ni. Traethir yn glir a manwl ar ymdrechion y 'Welsh Trust' a sonnir am y gwaith canmoladwy a gyflawnwyd gan y gym- deithas hon yn cyhoeddi llyfrau Cymraeg a chynnal ysgolion elusennol i blant Cymru. Dangosir pwysigrwydd pobl fel James Owen, Charles Edwards a Stephen Hughes a thelir teymged arbennig o huawdl i'r ddau olaf a enwyd am iddynt ddiogelu'r Gymraeg mewn cyfnod pan oedd perygl iddi ddirywio i fod yn iaith y di-ddysg yn unig a hefyd am iddynt droi gwerin Cymru'n geidwaid y Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg. Yna sonnir am ymdrechion a gweithgarwch arbennig y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol ym mlynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif. Un o brif orchestion yr ysgolion a sefydlwyd gan y gymdeithas hon oedd magu a meithrin to ar ôl to o ddar- llenwyr Cymraeg a thrwy hynny creu galw am fwy a mwy o lyfrau Cymraeg. Peth trist yn wir oedd gweld ysgolion y Gymdeithas hon yn dod i ben yn fuan wedi 1727 er iddi barhau i gyhoeddi llyfrau yn Gymraeg. Yna ceir hanes Ysgolion Cylchynol Grinith Jones a thraethir ar eu cyfraniad sylweddol hwythau i barhad yr iaith gan ddyfynnu'n helaeth o adroddiadau a llythyrau Griffith Jones ei hun. Edward Williams ac anghydffurfwyr eraill a ddaw i'r amlwg nesaf a sonnir am eu hymgais i ail-sefydlu'r ysgolion cylchynol. Dyma pryd y sefydlwyd