Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o fod yn gymorth i ymchwilwyr y dyfodol. Dyma bennod hynod ddiddorol a daw profiad yr awdur yn y maes arbennig hwn i'r golwg dro ar ôl tro. Yn y drydedd bennod ceir ymdriniaeth sylweddol ar y problemau sydd ynghlwm wrth ddysgu ail iaith a cheir trafodaethau ar bynciau megis yr oedran gorau i gyflwyno ail iaith i blentyn ysgol, y dulliau dysgu gorau i'w mabwysiadu, etc. Rhestrir y gwahanol ddulliau cydnabyddedig gan gynnwys disgrifiad byr ohonynt. Ymdrinir hefyd â'r gwaith ymchwil a wnaed ynglyn â chyflwyno a dysgu ail-iaith a cheir barn gytbwys ar werth pob ymdrech a sylwadau beirniadol a fydd o help i ymchwilwyr y dyfodol. Ceir tri atodiad ar ddiwedd y llyfr-"The Construction of An Attitude Scale for Measuring Attitude Towards Welsh as a Second Language," "The Construction of a Language Questionnaire for Measuring Linguistic Back- ground" a sylwadau ychwanegol ar gyflwyno a dysgu ail-iaith. Dylid ychwanegu hefyd i'r awdur gynnwys dau fynegai gwerthfawr i'r llylr­un o enwau'r personau y cyfeirir atynt a'r llall o'r pynciau yr ymdrinir â hwynt yng nghorff y testun. Dyna'r llyfr, a rhaid dweud ei fod yn llyfr hynod o ddiddorol ac yn un gwerthfawr dros ben. Fe fydd o fudd mawr i fyfyrwyr Cymru ac i bawb arall sy'n ymddiddori ym maes dwyieithrwydd. Ni allaf ond mynegi fy niolch mwyaf diffuant i'r awdur am lyfr cyfoethog ac ysgolheigaidd. Fe fydd yn llyfr safonol i gyfeirio ato dro ar ôl tro yn y dyfodol. Gwnaeth Mr. W. R. Jones gymwynas fawr â ni drwy gyhoeddi gyfrol hon. Eirug Davies (gol.), Ffolineb Pregethu, tt. 112, pris 10/6. Y MAE pedwar ar hugain o bregethwyr ym mhulpud y gyfrol hon a chyn- rychiolir ganddynt bob un o'r enwadau gan gynnwys yr eglwys Esgobol a'r eglwys Babyddol. Ordeiniwyd pob un ohonynt o fewn y deunaw mlynedd diwethaf. Ceir cyflwyniad meddylgar iawn a diddorol hefyd gan olygydd y gyfrol; cwyd ef amryw o bwyntiau o bwys ynglyn â phregethu'r efengyl yn y blyn- yddoedd hyn. Mae'n ystyried gwerth a diben y bregeth argraffedig gan gyfeirio at wyr amlwg ddoe a heddiw-Mial1 Edwards, Puleston Jones, Thomas Charles Williams ac Elfed, a hefyd Emil Brunner a Martin Luther King. Dyma eiriau y golygydd dros y bregeth argraffedig-"y mae'r honiad fod y bregeth a argreffir o reidrwydd yn brinnach a thlotach o ran eneiniad na'r un a draddodir o bulpud yn gwadu grym a dylanwad yr Ysbryd Glân sydd yn chwythu lle y mynno, mewn print a phulpud, ac yn rymus ei effeithiau mewn llawer dull, modd a chyfrwng." 'Rydym yn gyfarwydd heddiw â chlywed cwestiynau megis-a oes dyfodol i bregethu? a yw pregethu fel cyfrwng i ledaenu'r efengyl wedi goroesi ei ddefnyddioldeb? Cawn ateb pendant a chlir gan y Parch. Eirug Davies: "Mae'n dra sicr fod aml gyfrwng wedi hen oroesi'i ddefnyddioldeb a bod galwad ar yr Eglwys yn barhaus i dorri'n rhydd oddi wrth y maglau hynny sy'n arafu ei cham a llesteirio phererindod. Ond y mae dadlau fod pregethu yn yr ystyr o gyhoeddi a thystio i fawrion weith-