Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYNNULL praidd Y BUGAIL DA Y MAE'R gair "bugeilio" yn un cyfarwydd ddigon yng ngeirfa Cristionogion ac y mae sawl eglwys yn defnyddio'r gair "bugail" fel enw ar swyddog. Traddodwyd llawer pregeth erioed yn tynnu gwersi buddiol trwy gymharu'r bywyd Cristionogol â'r ffordd y mae'r ddiadell yn cael ei thrin gan y bugail. Er hynny, rhaid cydnabod fod ein dealltwriaeth o'r eirfa arbennig hon wedi mynd yn bur dlodaidd. Digon tenau yw'r arwyddocâd a roddwn i'r bugeilio sy'n digwydd yn ein plith fel eglwysi Cristionogol ac y mae llawer "bugail" na wyr i sicrwydd beth yn union yw ystyr yr agwedd fugeiliol ar ei waith. Un rheswm pam y digwyddodd y teneuo hwn yn ystyr y dosbarth yma o ddelweddau yw oherwydd eu datgysylltu'n ormodol o'u cynefin yn yr Ysgrythur. Yn hytrach na'u deall yn erbyn y cefndir Beiblaidd aethpwyd i'w hesbonio gyda chymorth ein gwybodaeth naturiol am fywyd ac arferion bugeiliaid yng nghefn gwlad. Y canlyniad anorfod yw ein bod oll yn tueddu i golli'r plygion cyfoethog o arwyddocâd sydd i'r delweddau fel yr arferid hwy gyntaf gan Gristionogion. Yn fwy na dim, torrwyd y cyswlli: gwefreiddiol rhwng "bugeilio" fel gweinidogaeth Gristionogol a'r diwedd buddugoliaethus hwnnw pan fydd Crist oll yn oll. Pan fyddwn yn sôn am ystyr gwahanol bethau yn ein bywyd Cristion- ogol, eu cysylltu yr ydym â diwedd y ddrama. Am fod cysylltiadau felly rhwng ein gweithredu a'n credu ni ar y naill law a dydd Barn a Diwedd Byd ar y llaw arall, y mae ystyr ynddynt. A'r cysylltiadau hyn a gollwyd rhwng y delweddau bugeiliol a theyrnas Crist. Y mae'r syniad fod Duw'n fugail inni yn un prydferth ac yn un cysurlon. A pheth hawdd iawn yw cymryd yn ganiataol mai ystrydeb yn Israel oedd galw Duw'n fugail. Ond anfynych iawn yr oedd yr Iddewon yn defnyddio'r gair 'bugail' fel teitl ar Dduw. Mae'n dipyn o syndod sylweddoli mai dim ond dwywaith yr ymddengys fel teitl yn yr Hen Destament i gyd. Fe wyddom oll am y drydedd salm ar hugain-"Yr Arglwydd yw fy mugail." Dyna