Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SAER DOLIAU A'R THEATR DDWL A YW'R artist cyfoes wedi mynd ar ddisberod? Dyna gwestiwn sydd i'w glywed yn amlach ac amlach y dyddiau hyn. Crëwr, molwr, arweinydd: onid dyna yw artist, neu onid dyna a ddylai fod? Ond mae nofelwyr yn sgrifennu llyfrau heb stori na chymeriad- au clir, sy'n ymddangos yn ddim ond rhibidirês o eiriau digyswllt yn dilyn ei gilydd yn ddiatalnod a digystrawen. Mae orielau celfyddyd yn derbyn yn ddifrifol weithiau fel Line (Barry Flanagan) sy'n ddim ond lein ddillad go iawn a dillad yn hongian arni. Neu mae Oriel y Tate yn cynnal arddangosfa o weithiau Liechstenstein-lluniau sy'n ymddangos yn ddetholion allan o stribedau comic wedi'u chwyddo. Gwelsom ninnau ar hyd a lled Cymru bosteri a gomisiynwyd gan y Cyngor Celfyddydau Cymreig, ac yn eu mysg lun Allen Jones o bâr o goesau deg troed- fedd o daldra, gyda nifer o lygaid yma ac acw ar weddill y llun. Ac nid odrwydd ymysg rhyw leiafrif o grancod bohemaidd mo hyn bellach. Un o'r cyfansoddwyr sy'n denu'r gynulleidfa luosocaf yn y Royal Festival Hall erbyn hyn yw Stockhausen, fel pan ber- fformiwyd ei waith enwocaf, Gruppen, He mae tair cerddorfa'n chwarae ar yr un pryd-a thri arweinydd wrth y llyw. Efallai mai'r enghraifft ryfeddaf o'r 'arbrofr hwn ym myd cerddoriaeth yw'r darn sy'n dwyn y teitl 4'33" gan y cyfansoddwr John Cage (sydd, gyda llaw, yn uchel ei barch ymysg cerddorion cwbl ddifrif- ol): darn i biano yw hwn, a'r hyn y disgwylir i'r perfformiwr ei wneud yw dod ar y llwyfan, eistedd wrth y piano am yr amser a nodir yn y teitl, ac yna codi a gadael heb gyffwrdd y piano. 'Beth sydd wedi digwydd i'r artist?' yw'r cwestiwn a ofynnir. Mae fel petai wedi colli cyfeiriad, ac yn ymbalfalu fel adyn ar gyfeiliorn. Yn lIe creu prydferthwch, yn He cynnal urddas, mae'n esgor ar erthylod rhyfeddach na'i gilydd ac yn eu galw'n gelfyddyd. Nid peth cwbl newydd mo hyn wrth gwrs. Bu nifer o fudiadau a fynnai ddinistrio, neu o leiaf chwyldroi, celfyddyd gonfensiynol yn y ganrif hon a rhoi He i fynegiant mwy unigol a beiddgar: Dadaistiaeth, Swrrealaeth a'r Mudiad Mynegiannol (Expressionism), er enghraifft. Efallai mai'r ddrama absurd gyntaf oedd Ubu Roi gan Jarry, a berfformiwyd gyntaf yn 1896 (ac a welwyd yn Liundain