Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IAITH A CHYMDEITHAS OFFERYN yw iaith a fabwysiadwyd gan ddyn ar gyfer mynegi ei feddyliau a'i brofiadau. Anodd dweud a fu yna gyfnod yn ei hanes pan nad oedd ganddo'r offeryn hwn, ac anodd yw penderfynu a allai feddwl o gwbl hebddo. Os gallai, mae'n ddiau mai pur niwlog ac annelwig oedd ei feddyliau. Y drafferth yw na wyddom pa mor hen yw'r ddyfais hon na pha fodd y dechreuodd. Fodd bynnag, fe wyddom gymaint â hyn: cyn y gall iaith fod yn effeithiol, rhaid fod person a chanddo feddwl ac awydd i fynegi'r meddwl hwnnw. Ond nid digon hynny. Rhaid wrth o leiaf un person arall a all ei ddeall a'i werthfawrogi, ac sy'n deall y cyfrwng y mynegir drwyddo. Hynny yw, cyn y bydd iaith yn effeithiol, rhaid wrth o leiaf ddau berson mewn cyfathrach â'i gilydd; neu os mynner, rhaid wrth gymdeithas. Heb gymdeithas nid oes ddiben i iaith; heb iaith nid yw cymdeithas yn bosibl. Y mae tri chyfrwng o fynegi, a daw'r tri o fewn cwmpas y term iaith. Yn gyntaf, ystum. Mae'n ddiau fod ystumiau yn ddull o fynegi sy'n mynd yn ôl i gyfnod cynnar, ac fe all ar dro fod yn ddigon effeithiol o hyd. Er enghraifft, gall plygu'r pen arwyddo cytundeb, a'i ysgwyd arwyddo anghytundeb; a gwyddys sut y gall cynulleidfa ddweud llawer wrth ddarlithydd neu bregethwr sâl heb wneud swn na chreu helynt. Ond y mae'n amlwg na allai'r cyfrwng hwn fod yn effeithiol ar gyfer cyfleu'r holl bethau y bydd ar ddyn angen eu mynegi, ac eithrio hwyrach mewn cymdeithas gyntefig a diddiwylliant. Cyfrwng arall yw cynhyrchu seiniau mewn cyfuniadau arbennig, sef geiriau ac iddynt eu priod ystyron, a chyfuno'r rheini mewn amrywiol ffyrdd yn ymadroddion a brawdd- egau. Y mae'r trydydd dull, mae'n ddiau, yn arwydd o gymdeithas fwy diwylliedig. Drwy hwn defnyddir arwyddion arbennig ar lech, croen neu bapur, i ddynodi'r gwahanol seiniau a'u cyfuniadau. Drwy'r cyfrwng yma gellir trysori meddwl, ac ymgydnabod â ffrwyth meddwl a phrofiad y gorffennol. Dyma'r cyfryngau sy'n peri bod bywyd cymdeithasol, a dyma'r cyfryngau hefyd sy'n arwydd o fywyd y gymdeithas yn ei holl agweddau. O'u hastudio'n briodol, fe ellir drwyddynt hwy ddysgu llawer am y bywyd hwnnw. Nid gormodiaith yw dweud bod astudio iaith o'r safbwynt hwn yn gyfrwng i ddeall datblygiad