Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROFIAD GWRANDAWR* Dyma'r tro cyntaf erioed imi fod yn annerch cynulliad o weinidogion, a theimlaf yn grynedig wrth siarad â phobl sy'n gwybod cymaint yn fwy na mi am y pwnc. A dyfynnu Mr. Saunders Lewis, amcan mynd i wasanaeth crefyddol yw addoli, ac mae hynny'n golygu gostyngeiddrwydd a gwyleidd-dra ar ran yr addolwr. Pechod mawr ein hoes ni yw hunan-ddigonolrwydd. Aethom i beidio â chydnabod neb uwch na ni ein hunain, ac i roddi ein hyder ar gyfoeth ac ar allu o bob math. Fe soniwn am y pethau allanol yn gyntaf, y gwasanaeth agor- iadol. Mae llawer o Ie i wella yma. Mae rhai pregethwyr heb ddysgu siarad yn hyglyw, a cheir anhawster i'w clywed. Mae rhai yn darllen yn ddifater, ac yn ledio'r emynau yr un modd. Da yw dweud nad yw pawb felly. Nid wyf i'n atebol i farnu'r canu, ond yr wyf o'r farn mai'r geiriau sydd bwysicaf, ac y dylid rhoi sylw i'r geiriau a mynegi'r teimladau sydd ynddynt. Clywais Mr. John Hughes, Dolgellau, yn dweud yr un peth, a bod canu cynulleidfaol Cymru yn ddigon cyffredin. Teimlo y byddaf i wrth wrando ar y canu cynulleidfaol ar y radio ar brynhawn Sul, fod mwy o bwys yn cael ei roddi ar leisio a chydsymud yn hytrach nag ar fynegi. Bydd rhai cynulleidfaoedd yn rhuthro drwy'r geiriau, ac yn gweiddi canu ar y darnau mwyaf dwys a thyner. Yn wir, mae lIe i gredu nad yw llawer o'r arweinwyr yn deall ystyr yr emynau, a bod y geiriau yn annealladwy i lawer o'r cynulleidfaoedd. Daethpwyd â rhai pethau newydd i'r gwasanaeth dechreuol er mwyn cael amrywiaeth, pethau fel unawdau a chyd-adrodd. O'm rhan fy hun byddai'n well gwneud yr hyn yr arferasom ei wneud yn dda, yn hytrach na chael amrywiaeth diddrwg-didda, dim ond er mwyn cael amrywiaeth. Mae rhai yn galw am ragor o seremoni. Yr ydym yn anghofio y gall peth syml fod yn hardd ac y gall gormod o addurn fynd yn fwrn. Byddai'r hen bobl yn cerdded o leoedd mor bell â Sir Caernarfon i'r Bala i gael y cymun gan Mr. Charles, a byddai chwarelwyr y Waun-fawr yn cerdded o Lanberis a mynd ar eu hunion i'r seiat yn eu dillad gwaith. I mi, yr oedd y pethau Anerchiad a roddwyd i Gymdeithas Athrofa'r Bala yn Llandudno, Mai 2, 1966