Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU William Morris, Ctcmni'r Pererinion, Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd. Pris 9/6. PAN ymgymearo'r Parch. William Morris ag unrhyw waith, boed bregeth, boed gywydd neu ysgrif, neu pan dry at waith llaw megis rhwymo llyfrau, fe ellir hod yn sicr iawn o un peth, y bydd yn gwneud hynny'n raenus. Ymranna'r gyfrol hon yn ddwy ran, sef sgyrsiau a draddodwyd yn y gyfres radio boblogaidd "Wedir Oedfa," a sgyrsiau eraill sy'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, sgwrs yn llawn gwybodaeth ddiarffordd am "Hen Bafiliwn Caernarfon," a dwy sgwrs ar bregethu, sef "Pregethu'r Tadau Methodistaidd" a draddodwyd i Undeb Athrofa'r Bala, a darlith goffa y Dr. John Williams, Brynsiencyn, ar bregethu. Gan fod y mwyafrif ohonom wedi clywed sgyrsiau'r gyfres "Wedi'r Oedfa" nid rhaid manylu arnynt, dim ond dweud eu bod ar gael i'w hail-flasu rhwng cloriau'r gyfrol hon. Y gamp mewn sgyrsiau o'r fath yw bod yn ddiddorol, y cyffyrddiad yn ysgafn, heb fod yn arwynebol, a'r iaith yn ystwyth heb fod yn sathredig. Dyma iaith pulpud Cymru ar ei gorau, sef yr iaith lafar wedi ei sylfaenu ar iaith y Beibl Cymraeg. Ynghanol yr holl sôn am Gymraeg Byw, a rhyw lol felly, y mae'n syn i mi na buasai rhywun wedi sylweddoli fod yr iaith honno'n ddiangen gan fod y wlad yn deall iaith y pulpud yn burion. Ond y mae lle i ofni fod llawer o garedigion yr iaith o'r un toriad â hwnnw y dywedir amdano nad oedd "yn gofalu am ddim o'r pethau hynny." Ceir yn y gyfrol hon ddawn i adrodd stori yn ddiddorol, a gwelir ei hawdur drachefn a thrachfen yn tynnu ar ei gof gafaelgar am gwpled o gywydd, englyn neu ddarn o emyn i yrru ergyd adref, a hynny'n addas bob tro. Yn y ddwy ddarlith ar bregethu y mae'n eglur ddigon fod William Morris yn gynrychiolydd teilwng iawn o draddodiad cyfoethog pregethu'r Hen Gorff. Cred fod pregethii'n bwysig ac i wneud hynny'n effeithiol rhaid wrth yr elfen bersonol, yr elfen berthnasol a'r elfen broffwydol. Y mae hon felly'n gyfrol ddiddorol i gwyr llên a'r gwyr lleyg fel ei gilydd. DERWYN Jonfs G. Wynne Griffith, Cofio'r Blynyddoedd Gynt, Llyfrfa'r Methodistiaid Calfin- aidd. Pris 8/6. DETHOLIAD yw'r gyfrol hon o ysgrifau a ymddangosodd yn Y Goleuad rhwng 11 Tachwedd 1964 a 18 Mai 1966. Bu darllen mawr arnynt ar y pryd a da yw eu cael, wedi eu dethol, yn gyfrol hwylus, canys er eu bod yn ddifyr pan gyhoeddwyd hwynt gyntaf, y maent gymaint gwell wedi eq çwtogi fel hyn-