Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwnaeth y diweddar Barch. G. Wynne Griffith ddiwrnod da o waith i':r Cyfundeb, ac yn y gyfrol hon cawn gipolwg ar y dylanwadau a'i lluniodd yn ystod ei flynyddoedd cynnar. Gwerth y gyfrol, yn ddiamau, yw'r darlun a geir ynddi o fywyd cymdeithas ym Môn yn niwedd y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon. Dangosir yn glir y gwrthdaro rhwng capel ac eglwys, a hynny nid heb beth dieter, a hwnnw'n ddicter cyfiawn. Rhoddir teyrnged i hen werinwyr syml, i flaenoriaid dawnus, ac i rai o'r hen do o weinidogion megis John Owen y Pare. Nid yw'r gweinidogion da hynny 'mwyach yn ddim ond enwau, ond yr oedd eu cyfraniad i fywyd eu hardal yn eu cyfnod yn un pwysig, a da bod tystiolaeth o'u llafur ar glawr. Treuliais lawer awr ddifyr yng nghwmni'r Parch. G. Wynne Griffith o bryd i'w gilydd, a hyfryd oedd gwrando arno'n tynnu o'i gof drysorau newydd a hen. Erys naws y sgyrsiau hynny ar y gyfrol hon. Yr oedd yn gwmniwr diddan, ac nid am bregethwyr a blaenoriaid y byddai'r sgwrs bob tro ychwaith, oherwydd gallai sôn yn ddifyr ddigon am arferion adar a chreaduriaid o bob math. Ceir awgrym yn yr atgofion hyn y bwriadai ysgrifennu ar fywyd y wlad, ei harferion a'i dywediadau, a mawr yw ein colled na chafodd gyfle i wneud hynny. Gwn iddo gael llawer o ddiddanwch wrth fwrw ymlaen gyda'r atgofion hyn yn Y Goleuad, a bu hynny'n foddion i liniaru ei hiraeth mawr am ei briod. Gresyn na chafodd fyw i gofnodi llawer mwy o atgofion am gyfnod ei weinidogaeth a'i lafur fel llenor a diwinydd. Derwyn JONES T. Llewelyn Thomas (Eilian), Canu Natur Cerddi'r Prynlutwn, Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd. Pris 5/ CYHOEDDODD y Parch. T. Llewelyn Thomas (Eilian) gyfrol o farddoniaeth dros drigain mlynedd yn ôl pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bala. Prif- athro'r Coleg y pryd hwnnw oedd Ellis Edwards ac ef a ysgrifennodd rag- ymadrodd i'r gyfrol. Hen gyfaill i'r awdur, y Parch. William Morris, a ysgrifennodd ragair i'r gyfrol hon. Dywedodd y gŵr cyrhaeddgar hwnnw y Parch. R. Dewi Williams unwaith ar dudalennau Y Traethodydd mewn ysgrif goffa i'w hen fyfyrwyr nad gwastraff ar amser fyddai i bob ymgeisydd am y weinidogaeth gyfansoddi ychydig gerddi yn ei oriau hamdden, cyhyd ag y bo hynny'n peidio ag ymyrryd â'i astudiaethau. Byddai'n ddisgyblaeth dda iddo ddysgu dewis geiriau'n ofalus a chynefino'r glust â miwsig brawddegau, peth fyddai'n gynhysgaeth iddo am ei oes. Credaf fod hynny'n wir yn achos awdur y gyfrol hon. Cynnwys y gyfrol delynegion, englynion, cywyddau ac emynau. Gwir y dywaid y Parch. William Morris yn ei gyflwyniad cynnes i'r gyfrol mai troeon a thymhorau natur sy'n cymell y bardd yn bennaf i ganu.