Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wele enghreifftiau o'i ymateb i Ionawr gerwin a thyner mewn dau englyn BARRUG IONAWR Oer a llwm gan rew yw'r llawr,­yn y llwyn Nid oes lluniaeth unawr; Gwae a'n medd, rhyw gyni mawr I'r gwan yw barrug Ionawr. Ond ar ddydd CALAN 1967 stori arall sydd ganddo: Dim eira a dim oerwynt,-dim cenllysg, Dim canllawr na rhewynt; Dim seiniau gwae, dim sŵn gwynt, Mae heulwen a dim helynt. Cân yn lân a syml fel yna, ac ni sylwais ond ar ambell fân frycheuyn, megis tor mesur rai troeon a thwyll gynghanedd unwaith yn y llinell, 'Darn o'r nef dirion yn ôl.' Gellid ei chyfiawnhau hithau trwy gyfrif yr r yn ganol- goll fel y gwnâi'r hen feirdd. Sylwais ar rai gwallau argraffu ac y maent hwy'n gyfrifol am hyd rhai o'r llinellau. DEHWYN Jones E. II. Grilfiths, Heddychwr Mawr Ctmru. cyfrol 1, Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1967, pris 12/6. O DRO i dro clywir cwyno nad yw'r Eisteddfod Genedlaethol bellach yn elfen o bwys ym mywyd llenyddol y genedl. Nid yw'n mentro nac yn arbroii, meddir, a pheidiodd â chynhyrchu barddoniaeth a dramâu gwir arwyddocaol. Dichon fod sail i gwynion fel hyn, ond da yw cofio inni gael o gystadleuthau'r Eisteddfod ambell gyfrol o feirniadaethau neu hanes y bu'n dda inni wrthynt. Ffrwyth cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1964 yw'r gyfrol gyntaf hon o fywgraffiad George M. Ll. Davics. Oddi ar hynny cafodd yr awdur gyfle i ddiwygio ac i adolygu'i waith a chael tynnu hefyd ar draeth- odau ei gyd-gystadleuwyr, un ohonynt, y Parch. Richard Roberts, yntau wedi cyhoeddi ei waith ar George Davies yn Y Drysorfa, Mawrth—Rhagtyr, 1967. Diau fod gwaith Mr. Griffiths ar ei ennill o'r oedi a'r cydymgynghori hwn a bod y cofiant gymaint â hynny'n fwy gwerthfawr. Hawdd y gellir cytuno â'r Parch. R. J. Jones pan ddywed mewn Rhagair i'r gyfrol fod yr awdur 'wedi llafurio'n galed a Hwyddiannus i adrodd hanes "George" gyda manylder diarbed.' Bu'n ddiwyd iawn yn hel ei ddefnyddiau ynghyd, yn ddyddiaduron, llythyrau, cylchgronau ac yn llyfrau, ac ni ellir ond edmygu ei ymroddiad. Nid gorchwyl hawdd oedd ysgrifennu hanes bywyd un mor symudol â George M. Ll. Davies, un a oedd yn ymwneud â llawer cymdeithas a chylch ac un na chollai gyfle i ddatgan ei gredo ar lafar