Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CNU AUR Maer ddelwedd yn ÿ meddwl yn gnu aur ar fwrdd y llong. Y wawr ar y mor, a ninnau'n tynnu ar y rhwyfau ar draws gwyrddlesni'r tonnau, dwylo'n ateb cynghanedd dwylo, breichiau'n cystrawennu mydr breichiau, am fad y cnu aur yn llun yn hyder y llong. Y storm ar 'y môr, yr ymchwydd odanom yn ddu, y dŵr yn lluchio dros afaelion y rhwyfau, heli'n gymysg â chwysiadau wyneb, a'r llygaid o'u socedi n rhythu ar y cnu aur. Llonyddwch y dwr, ewyn hoywWyn yn ymestyn ymhell o'n hôl a dolffinaun dowcio chwarae yn Uwch y llonyddwch â nyddiad a chri'r gwylanod uwchben, Ilonyddwch y machlud ar y môr, a'r cnu aur ar fwrdd y Ilong. EUROS BOWEN.