Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHYCHWANT Y GERDD Je ne fìnis pas un poéme, je l'abandonne. APOLINAIRE. Rhywsut, fe ddeuant, y geiriau hyn, i fydru mewn gwair neu bren, mewn carreg neu ddŵr, fn haflonyddu. Dadleuant yn nileohdid y gwynt, llifant yn loyw yn rhethreg y glaw, llathrant ym mhelydrau haul, a glynant yng nghof coed. Gwir yw nad oes i'r geiriau hyn na dechrau na diwedd. Eto, owynant, am dristwch eu teithiau tost, o gyni eu geni coch yng nghroth y cynfyd, h'yd at fannau eu marw tu hwnt i seriadau'r sêr. Ond, ninnau a wyddom mai gwir yw nad oes i'r geiriau hyn na dechrau na diwedd, yn rhychwant diddiwedd, digerdded y gerdd BRYAN MARTIN DAVU