Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HAF AR Y CLAWDD (Sef Clawdd Offa) Mehefin; a'r haf sy'n llenydda yng nghoed y Clawdd o fore ihyd hwyr. Fel geiriau mewn cerdd, dethol yw'r dail yng nghystrawen ceinciau, a brawddegau o newyddfrig ffraeth sy'n ffrydio ar ddalennau'r ynn. Straeon sy'n dirwyn fel oriau difyr yng nghyfrolau'r deri, ac ysgrifau, caled fel cnau, sy'n diddori V dydd rhwng cloriau'r cyH. Gorffennaf; a'r haf sy'n arlunio yng nghoed y Clawdd o fore h*yd hwyr. Fel ar gynfas, esgyn mae'r ysgaw mewn berw o baent, yn bwyntiliadau o betalau a gwres. Estyn hefyd wna'r bedw yn ewyniadau o wyrddni ar awyr, ymloywant fry rhwng fframwaith y Mechweddau pell. Lledu wedyn wna'r helyg mewn darlun llydan, sgleintiadau o liwiau yn glawio o'u cangau isel. Ym Mehefin a Gorffennaf, mae llenyddiaeth ac arluniaeth yr haf yn frwd yng ngwarineb y coed hyn, cyn dyfod Philistiaeth yr hydrefwynt o gyrrau estron y tir llwyd i ddifa'r Clawdd. BRYAN MARTIN Davies.