Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llangadfan EMRYS ROBERT EHWD Gorffwyso 'roedd brenin Moab heb ei helm yn y ddinas o balmwydd, o wres yr haul wedi trechu'r Israeliaid,- Eglon dew, gelyn yn ei dy haf. Canai'n llon a di-ofid heb wybod am y cynHwynio dyfal i'w ladd o. Yn dy law ddehau 'roedd anrheg deg i deyrn, a charn dagr gẃr chwerw yn dynn a chêl yn dy ddwrn chwith; lofrudd ar frys, ac ar dy wefusau gwyn yr oedd poer ac anwiredd parod. Llyncodd gweision Eglon dy stori'n hawdd a chilio i ddychwelyd i ddwyn carn o goluddion coch ei dwym gorff, a'r braster wedi ymgau ar ddaufiniog ludiog la-fn ym mhoten eu brenin. Ni welodd un hyn, ac ni chlywodd neb ei dawel ochain ond y ti, Ehwd lawchwith. Ac ef, Eglon, yn gyfoglyd dom ar lawr ei dý haf, dychwelaist i chwilio'n frwd He cuddiai dy frodyr, a d'ygaist i ogof eiriau o gyiffro a drodd greigiau EfFraim yn eco'n dwyn dy newyddion da.