Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EMYN Duw YN Canlyn (Wedi darllen pregeth Elfed ar Salm 23, 6) Wrth syllu drach ein cefn i'r doe a fu Fe ddaw ein pechod brwnt i'n poeni'n hy,- Yr osgo balch, yr angharedig air A'r an-ras dro nas caed yng Nghrist, Fab Mair. Tydi, Ganlynwr Dwyfol, tyrd o'n hôl A :maddau'r difwynderau blinion, ffôl. Wrth gofio'r hyn a wnaethom yn y byd, O, na bai'i raen yn loywach lawer pryd,— Ein cymwynasau prin, ein gwaith pob-dydd A'n hymdreoh eiddil i ledaenu'r Ffydd. Tydi, Ganlynwr Dwyfol, dilyn ni A gwella ar ein gwaith yw'n dwysaf cri. Wrth weld 'y frwydr rhwng y drwg a'r da Ac osio o ddyn i garu'r drwg a'i bla, Diolchwn am holl-actau beirdd pob oes Ac am bob teyrnged gain i Wr y Groes. Tydi, Ganlynwr Dwyfol, gwarchod hwy, Yn olud ac ysbrydiaeth inni mwy. Llandeilo-fawr. J. EDWARD WILLIAMS