Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cristnogaeth a'r Bardd YN RHIFYN EbriU, 1897, Y Gdninen, cyhoeddwyd sylwadau i 'w gwrando ac nid fw darllen gan Emrys ap Iwan ar y pwnc Llenyddiaeth Grefyddol y Cymry Gynt." Thema Emrys ap Iwan yw fod "pob llyfr sy'n rhan o lenyddiaeth yn gywreinwaith ­yn waith celfyddyd—o ran cynllun, defnyddiau, arddull ac iaith. Prin, gan hynny, y rhaid dweud mai ychydig o'r llyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd yn ystod y can mlynedd diwethaf sydd yn rhan o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw. Y mae ein llyfrau crefyddol yn IIawer; ond prin yw ein llenyddiaeth grefyddol. Yr achos pennaf o hyn ydyw amledd sectau yng Nghymru, a'r ffaith eu bod gan mwyaf yn sectau go newydd. I fagu llenorion, rhaid i gyfundeb fod nid yn unig yn gryf, ond hefyd yn hen. Rhaid iddo fod wedi cefnu er ys talm ar y cyfnod cyffrous, pryd y mae gorfod arno dreulio'i nerth mewn ymddadlau â gwrthwynebwyr, er mwyn ymsefydlu neu ymgadarnhau yn y wlad." Â Emrys yn ei flaen i resynu cyn lleied o lenoriaeth Cymru a gyfieithwyd i ieithoedd y Cyfandir; mae'n rhestru rhai o'r gweithiau a gyfieithwyd, megis y Mabinogilon; a Gweledigaethau'r Bardd Cwsg, a gyfieithwyd i'r Saesneg. Cyfeiria at y clasuron yr anogai ei wrandawyr—myfyrwyr Coleg y Bala—i'w darllen, megis Drych y Prif Oesoedd a Tri Aderyn yn Ymddiddan, a gwaith Williams PantyceIyn,-(" Fe ellir ei osod ef ar yr un tir ag Aneirin Gwawdrydd a Dafydd ap Gwilym, os nad yn wir yn uwch na hwynt"). Yr hyn sy'n drawiadol yw fod Emrys ap Iwan yn rhybuddio ei fyfyrwyr rhag syrthio i ddilyn dulliau llenyddol a phregethwrol ei gyfoeswyr; mae'n amlwg bod eu dulliau hwy i'w hosgoi fel y frech wen yng ngolwg Emrys: "Yn hyn, fel ym mhopeth arall, ymbaratowch yn hytrach ar gyfer y genhedlaeth sy'n dyfod nag ar gyfer y genhedlaeth sy'n myned ymaith. Canys nid oes dim i'w ofmn fwy na bod yn fach yn hen ar 61 bod yn fawr yn ieuanc" (Fy italeiddio i.) Fe wyddom oll mai dyn dewr oedd Emrys ap Iwan, ond yr oedd galw ar ddyn tra dewr i gyhoeddi'r sylwadau hyn yn Y Geninen, fis Ebrill 1897. Yn yr un rhifyn cyhoeddwyd pryddest "Dioddef Ben Davies (1864-1937). Daeth ef i'r amlwg, cyn cyrraedd ei ddeg ar hugain oed fel un o'r beirdd newydd. Yr