Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

natblygiad Gwenallt lel bardd. Mae'n olrhain yn y gerdd y prof- iadau dadrithiol a'i troes yn erbyn crefydd, pan ymaelododd â'r I.L.P. Mewn llythyr ataf dyddiedig 9/7/69 dyma a ddywed y diwedd- ar D. J. Williams, Abergwaun: Yn nhy Gwenallt druan, ddydd ei angladd, y cwrddasom ni ddi- wethaf. Teimlaf o hyd fod mwy o golled i enaid Cymru, a mwy o wacter yn ei bywyd hi, ar ei ôl ef, nag a allai fod ar ôl neb arall bron. 'Roedd e, rywfodd, wedi treiddio at wraidd a hanfod pethau ym mywyd ein cenedl ni yn yr argyfwng presennol,-ac ôl y merthyrdod myfyrdod mawr hwnnw yn amlwg yn angerdd ei gerddi mwyaf. A synnwn i ddim nad yw ei ddylanwad ef drwy ei waith a'i bersonoliaeth ddidwyll a digymrodedd, ymysg ei dorf o ddisgyblion trwy gydol y blynyddoedd, mor gyfrifol â dim am y cyffro newydd sydd drwy Gymru heddiw,- diolch amdano. A diolch, meddaf innau, am y bardd Cristnogol. W. R. P. GEORCGE (Sylwadau yw'r uchod a seiliwyd ar anerchiad a roddais mewn cyfarfod o Gylch Llenyddol Penygroes, fìs Mawrth, 1973.)