Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cyfnod gyfiawnhau esgeulustod y Llyfrfa yn hyn o beth. Un gwyn arall — bron o dan y Trade Descriptions Act! Honnir i'r gyfrol gynnwys Cyffesion Awstin tra na chynhwyswyd ond y deg llyfr cyntaf o'r tri ar ddeg a ddaeth o law Awstin, ac ni'n rhybuddir mai felly y mae. Cytunaf mai doeth oedd talfyrru fel hyn, ond dylid fod wedi rhybuddio'r prynwr. Sylwais hefyd fod copi Coleg Diwinyddol Aberystwyth, y dywed y cyfieithydd iddo ei fenthyg, yn ymddangos fel petai'n hen ffasiwn. O wneud tipyn o waith ditectif, credaf mai testun Migné (1845.) ydyw, sydd yn adargraffiad o destun Benedictiaid St. Maur (1679) ac efallai, a barnu wrth rhai deongliadau, o argraffiad Pusey (1843) nad yw'n llawer mwy nag adargraffiad o destun St. Maur. Wedi hynny, cafwyd argraffiadau safonol o'r testun gan Knöll (1896) a Labriolle (8ed argr. 1961) Argraffwyd testun Knoll drachefn gyda rhagymadrodd a nodiadau campus yng nghyfrol Gibb a Montgomery yng nghyfres Caer-grawnt o'r Tadau (1908). Ond meflau bach yw'r pethau hyn a gallwn ddiolch am gyfieithiad mor ddarllenadwy ag a ganiatâ'r gwreiddiol iddo fod, gwaith yr oedd yn werth ei wneud, wedi ei gyflawni'n anrhy- deddus. Efallai y gellid bod wedi torri ambell frawddeg hir yn frawddegau byrrach; gellid dadlau ynglŷn ag ystyr gair neu eiriau, ond mater o farn bersonol yw hynny. Nodais ychydig o'r rhain ar y diwedd. Mae'r argraffu'n lân iawn a'r unig gam- brintio a allai beri anhawster yw pren yn fy nghylla" yn lle poen yn fy nghylla (I, 17, t. 17). Cefais bleser mawr o ddarllen yn fanwl drwy'r gorohestwaith hwn o amynedd ac ysgolheictod. Beth ynteu yw y Cyffesion hyn a sgrifennodd Awstin tua 397- 398 O.C., ryw un mlynedd ar ddeg ar ôl ei fedyddio, pan ydoedd yn 43 neu 44 oed, ac wedi bod yn esgob Hippo er 395? Y mae i'r teitl ystyr letach na'n cyffesu ni; fel y dywed Awstin, gelwir ef yn gyffes nid yn unig o bechod ond hefyd o foliant" (Enarr. in Psalm cxliv, 13) neu ar ddechrau llyfr XI o'r Cyffesion; Dangos- wn ein teimlad drwy gyffesu iti ein trueni ni a'th drugareddau Di tuag atom (XI, 1). Gellir ystyried y llyfr fel hunan-gofiant gẃr yn adrodd ei bererindod ysbrydol Fe'i hadroddir ar ffurf gweddi ar Dduw a gyferchir drwy'r gwaith i gyd, gan gyffesu ei bechodau a moli Duw, Y Tad. Dyna sy'n esbonio mai cymharol anfynych y mae'n galw ar enw Crist. B