Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llenyddiaeth Lydaweg Heddiw FE HOFFWN ddweud ychydig eiriau ynglyn â chyfJwr a dat- blygiad llenyddiaeth Lydewig yn y cyfnod diweddar. Ond ni ellir sôn am Jên yn unig wrth drafod llên; nid llenorion yn unig yw ein hawduron ac ni fedran nhw fod. Mewn gwladwriaeth foethus yn unig y gellir fforddio'r llenor pur, mae hynny'n amhosibl mewn gwlad drefedigaethol. Swyddogaeth ein hawduron yw (neu dyna a ddylai fodj, yn gyntaf, bod yn dystion i'w cyfnod i gofnodi bywyd eu cenedl, ac yna, fel aelodau cyfrifol o'u cym- deithas, gweithio ac ymdrechu, gyda'u hoffer arbennig-fel y bydd y gweithiwr a'r ohwyldroadwr arfog yn ei wneud gyda'u hoffer nhw-i wella'r bywyd hwnnw a'i wneud yn llawnach ac yn rhydd a'i wneud yn gyfrwng llawenydd ac yn gyfrwng cyf- lawni dyheadau dynol. Ymhlith y gwledydd Celtaidd, mae tebygrwydd rhwng Llydaw a'r Alban yn gymaint â bod i'r ddwy wlad hanes hir o fod yn wladwriaeth-un sefydlog a gydnabyddid gan genhedloedd eraill yn union fel y cydnabyddir cenedl heddiw. Ond distrywiwyd y wladwriaeth Lydewig yn 1532 gan y Ddeddf a unodd y ddwy Goron; serch hynny, fe gadwodd Llydaw ei Senedd a'i statws ymreolaeth tan 1790, pan rwystrwyd y Senedd Lydewig rhag cyfarfod drwy rym a rhannu'r wlad yn bum uned weinyddol Ffrengig, a dyna'r sefyllfa o hyd heddiw. Pwynt arall y dylid ei grybwyll, ac y mae hwn eto'n dangos y tebygrwydd rhwng Llydaw a'r Alban (mor wahanol oedd hi yng Nghymru ac yn Iwerddon), yw mai gwlad ddwyieithog oedd Llydaw oddi ar gyfnod cynnar iawn. Yn fras, Llydaweg a siaredid yn y rhan orllewinol, ond tafodieithoedd Lladinaidd a geid yn y rhan ddwyreiniol. A chan mai yn y dwyrain y cartrefai'r peirian- waith llywodraethol fe gollodd y diwylliant Llydaweg nawdd y wladwriaeth yn gynnar-yn yr unfed ganrif ar bymtheg y ceir yr olaf o'r dugiaid a fedrai Lydaweg-a difJannodd y beirdd swyddogol yn gynnar hefyd. Nid oes amheuaeth na fu bri ar y beirdd hyn yn eu dydd. Mae tystiolaeth i hynny yn y dulliau cymhleth o odJi, tebyg i arferion beirdd Cymru, a arferid yn ein gwlad. Ceir tystiolaeth ihefvd vn v ffaith fod llawer o'r hen gerddi, a gas,Gflwvd