Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Esblygiad a Bioleg Diwylliant AETH mwy na chan mlynedd heibio bellach cr pan gyhoeddodd Darwin ei gyfrol The Descent of Man (1871), a chyda'r blynydd- oedd, daeth mwy a mwy i dderbyn y ddamcaniaeth fiolegol gyffredinol ynglyn ag esblygiad bywyd ar y ddaear. Ym mlyn- yddoedd cynnar y can mlynedd hyn, bu brwydro ffyrnig rhwng biolegwyr a chrefyddwyr y cyfnod. Bellach nid oes fawr neb yn ymboeni ynglyn a rhwygiadau a ddaeth i'r wyneb ar y pryd. Eto i gyd, erys cryn dipyn o anesmwythyd, yn enwedig i'r neb a geisio lyfyrio ym myd y gwyddorau gan astudio llwybr datblygiad ac esblygiad y ddynoliaeth. Awgryma astudiaethau atomaidd a moleciwlar diweddar fod oed y bydysawd oddeutu 4,700 o filiynau o flynyddoedd. Ym- ddangosodd bywyd, a thrwy hynny esblygiad organaidd ryw 900 o fìliynau ar ôl hynny, ond ni ddaeth dyn i'w lawn ddatblygiad ond ryw ddwy neu dair miliwn o flynyddoedd yn ôl. Beth bynnag am gywirdeb yr ystadegau hyn, o gyfnod Darwin hyd at heddiw, pentyrrwyd tystiolaeth ar ôl tystiolaeth i gadarnhau eg- wyddorion sylfaenol esblygiad biolegol bywyd ar y ddaear ac mai cynnyrch pennaf yr esblygiad hwnnw ydyw dyn. Bellach, nid canfod mwy a sicrach tystiolaeth ydyw priod waith astudiaethau esblygiadol, ond yn hytrach ddarganfod ym mha ffyrdd y mae patrwm esblygiadol y rhywogaeth ddynol yn gwahaniaethu oddi wrth holl batrymau eraill bywyd yn y byd o'n cwmpas. Ychydig sydd a wnelo'r crefyddwr ag astudiaethau o'r fath a'r canlyniad ydyw fcxl llawer o agweddau ar ei grefydd yn bodoli o'r neilltu i gamau breision bioleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn. Ni chredaf mai dyma'r ffordd i estyn a dyfnhau'r elfen gref- yddol ym mywyd dyddiau fel y rhain. Rhaid byw a myfyrio'n barhaus yn ein penbleth ac yn y gobaith y derbyniwn y weledig- aeth sy'n debyg o ddyfnhau ein ffydd drwy ein gwyddoniaeth a thrwy wyddor bioleg yn hytrach na chau ein llygaid i'r dargan- fyddiadau enfawr a wnaed ym myd bioleg. Daw'r syniad mai rhywogaeth fiolegol ydyw dyn, yn hytrach na chanlyniad creadigaeth arbennig, â chryn dipyn o fraw ac o syndod o hyd i'r crefyddwr traddodiadol sy'n mynnu glynu wrth