Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau E. CAERWYN WILLIAMS (Gol.), Ysgrifau Behnhufol. VII (Gwasg Gee). £ 1.75. Yn y Rhagair i'r Ail Gyfrol o'r gyfres hon dywed yr Athro J. E. Caerwyn Williams y byddwn yn cyfeiliorni'n ddybryd os anghofiwn mai angen Cymry ein hoes ni fel Cymry pob oes o'n blaen yw ymgydnabod â'n traddodiad llenyddol o'i ddechreuad ac mai amcan y cyfranwyr yw gyrru y darllenwyr yn ôl at weithiau'r awduron yr ymdrinir â hwy." Dyna'n union yr hyn y mae'r gyfrol hon yn mynd i'w wneud, a rhaid llongyfarch y Golygydd am gasglu at ei gilydd, am y seithfed tro. nifer o feirniaid llenyddol craff. Nid wyf ers tro byd wedi ymaflyd mewn llyfr a chymaint o ymdeimlo â thraddodiad ynddo. Defnyddiwn y gair yn aml wrth sôn am draddodiad y peth hwn a'r peth arall, o draddodiad bro ac ardal hyd at draddodiad llenyddol Ewrop fel y gwna'r Golygydd ar dudalen 68. Mae Broseliawnd T. Gwynn Jones, meddai Wenna Williams, wedi ei seilio ar y traddodiad a geir yn y rhamantau, 115. Y beirdd, meddai D. J. Bowen, yw ceid- waid traddodiadau'r genedl, 40. Cyfeiria Dafydd Glyn Jones at y traddod- iad y mae Saunders Lewis yn gweithio ynddo, 213, ac am y traddodiad y mae'n dewis gweithio o'i fewn. ac ar un achlysur fe rydd gynnig ar gulhau a diffinio ystyr y gair drwy sôn fel y mae yna draddodiad, ffordd o feddwl" yn cydio Racine a Corneille ac eto mewn ystyr ehangach fe gyfeiria at Blodeuwedd fel y mae hi'n llefaru yn enw traddodiad mawr athroniaeth Gristnogol a dyneiddiol Ewrop. Mae John Rowlands yn aros i fyfyrio ar ystyr y gair modern gan gyfeirio at lyfr Harold Rosenberg, The Tradition of the New. llyfr y gwelais i hi'n anodd gwneud na rhych na rhawn ohono. ond yr hyn a ddywed Rowlands yw er gwell neu er gwaeth (ac er gwaeth yn fy marn ddibwys i) nid yw llenyddiaeth Gym- raeg byth yn mynd i eithafion—mae cadwyn traddodiad yn rhy greulon o dynn," 167. Fe erys yn Llyn ac Eifionydd," meddai Saunders Lewis. draddodiad o Cymraeg da a llenydda syber ac wrth sôn am yr ychydig weddill o Gymry uniaith fe ddywed, "Y mae traddodiad cadarn yn garn iddynt." Ef sy'n ddefnyddio'r ymadrodd synhwyro traddodiad," 281. Os medrwch chwi synhwyro traddodiad sy'n clymu cymdeithas ac yn rhoi undod ac ystyr a pietas i fywyd cymdogaeth fe werthfawrogwch y darlun Fyrsilaidd hwn," a chodir darlun ganddo o Bigaur Sêr, J. G. Williams, o bobl Llangwnadl ar fore Sul yn mynd i'r capel a'r gwasan- aeth. Erbyn i ni gyrraedd y diffiniad eang yma o draddodiad a'r geiriau sydd ynglŷn â'r gair, sef "clymu," "ystyr," "undod," "pietas," gwelir bod y gair yn golygu rhywbeth llawer mwy na throsglwyddo ac etifeddu na "ffordd o feddwl." Dyrna'r hen air yn hanes yr eglwys Gristnogol yn Ewrop ond bod y traditio. y pairadosis yn fwy na phroses, a'i fod yn fuan iawn vn dod i olvgu vr hyn a draddodir, y res tradita." a'i fod \-n endid