Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

R. H. EVANS, Datganiad Byr ar Ffydd a Buchedd. Darlith Davies 1969. Cyhoeddwyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr y Ddarlith Davies, ac argmff- wyd yn Argraffty'r M.C., Caemarfon. 60c. Yr wy'n ddigon hen bellach i gofio am ddwy ddadl fawr a gododd ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn ystod y ganrif hon, sei y ddadl ynghylch Tom Nefyn a'i ddaliadau, a'r ddadl a gododd yn sgîl Adroddiad y Comisiwn Ad-dreinu a benodwyd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Mynnai'r Comisiwn y dylid datod yr hualau a glymai'r Cyfundeb a'i holl eiddo wrth lythyren y Gyfles Ffydd a gymeradwywyd yn 1823. Yn ôl y Weithred GyfansoddiadoJ, 1826, ni ellid caniatáu unrhyw amser gyfnewidiad, nac hyd yn oed ystyried cyfnewidiad yn y Gyffes Ffydd, neu yn y Daliadau neu Athrawiaeth sydd iw dysgu a'u cadw gan y cyfundeb." 'Roedd sefyllfa felly yn annioddefol gan arweinwyr y Cyfundeb, a barnai'r Com- isiwn Adrdrefnu fod gan yr Eglwys hawl i adolygu'i chredo pan deimlai fod angen am hynny." Ni theimlid, serch hynny, y dylid mynd ati i lunio cyffes newydd. Ond peth da fyddai cael Datganiad Byr ar y pethau a ystyrir gennym yn hanlodol mewn cred a buchedd Gristnogol." Dyna'r ymdeimlad, ac wrth geisio gweithredu ar hyd y llinellau hyn fe giciodd y Comisiwn nyth cacwn. Ceisiodd yr Athro R. H. Evans, yn ei Ddarlith Davies, ddelio â'r ymrafael a gododd rhwng y ceidwadwyr di- winyddol a'r Comisiwn Ad-drefnu. Rhannodd yr awdur y maes yn dri, sef Cefndir, Cynnwys a Chanlyn- iadau'r Datganiad. Yn naturiol ddigon ei ffynonellau yw Adroddiadaur Coinisiwn Ad^drefnu a'r Sasiynau, ac ysgrifau a gohebiaethau o'r Goleuad. Cafodd hyd hefyd i rai llythyrau perthnasol a fu'n gryn help iddo wrth drafod ambell bwynt. Llwyddodd yr awdur, mi gredaf, i weu stori ddi- ddorol o'r defnyddiau oedd dan ei law. Y mae'n ddiddorol oherwydd i rai cymeriadau lliwgar, megis y Dr. Cynddylan Jones, gymryd rhan yn y ddadl; a bod ofnau, drwgdybiaethau a rhagfamau pobl fel Nantlais yn peri gofid nid bychan i hyrwyddwyr y mesurau diwygiadol. Diddorol yw sylwi mai yn y De y ceid yr elfennau ceidwadol, ac o'r dalaith honno y daeth y gwrthwynebiadau cryfaf. Un o geidwaid uniongrededd ei gyfnod oedd Cynddylan, ond syndod i rai fydd darllen yn y gyfrol yma nad ystyriai ef "fod y Gyffes' Ffydd wreiddiol mor anffaeledig ag y myn rhai yng Nghymru heddiw ei bod." Byddai ef yn eithaf boddon i ddileu'r an- soddeidau anysgrythurol diamodol a neilltuol neu bersonol o'r erthygl ar Etholedigaeth. Paham, gofynnai, yn Sasiwn Aberhonddu, na eid ati i newid rhai pethau yn y Gyffes Ffydd? Mynnai ef ei gwneud yn lletach. a pheidio â rhoi'r fath bwys ac arbenigrwydd ar Bum Pwnc Galfìniaeth. (Ni chaniateid cymaint â thrafod pethau felly, wrth gwrs, gan amodau'r Weithred Gyfansoddiadol!) Ond nid Cynddylan oedd pawb, a bu'n rhaid i'r hyrwyddwyr gyfaddawdu er mwyn cwrdd â gwrthwynebiadaur ceid- wadwyr. Nid oedd neb hafal i'r Dr. E. O. Davies i ddod dros ben pob gwrthwynebiad. Ei ddycnwch a'i ddyfalbarhad ef-heb sòn am amynedd -a Iwyddodd yn y diwedd i esmwytháu'r holl bryderon a'r drwgdybiau. a chael unoliaeth bam i fynd â'r mesur newydd trwy'r senedd. E