Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae'n syndod i ni, yn yr oes hon, na fynnai rhai yn y daudclegau gael yr hawl i'r Eglwys hyd yn oed i ystyried ei daliadau athrawiaethol. Defnyddir y Datganiad Byr heddiw yn y sasiynau wrth neilltuo brodyr i'r weinidogaeth, ac yn yr henaduriaethau hefyd wrth ordeinio blaenoriaid. Sylwais, lawer gwaith, ar y gwrandawiad astud a gaiff y Datganiad mewn cyfarfodydd felly; y mae hynny'n glod nid bychan i'r pedwar brawd a'i lluniodd dros y Corff. (Gyda llaw, peth da oedd cynnwys darlun ofr brodyr da hyn yn y gyfrol.) Ceir dau atodiad i'r gyfrol yn rhoi ffurf derfynol yr Erthyglau Datgan- iadol ym Mesur Seneddol 1933, gan nodi'r cyfnewidiadau a wnaed o bryd i'w gilydd yn ystod y ddadl. Cynnwys yr ail atodiad yw traethiad yr Athro R. Buick Knox gerbron Sasiwn y De yn Nhyddewi yn 1967 ar Eglwys Bresbyteraidd CyTuru a Safonau'i Chred. Is-deitl y Ddarlith Davies hon yw Pennod ddiweddar yn hanes Eg- lwys Bresbyteraidd Cymru." Prin hanner canrif yn ôl y bu'r cyffro hwn yn hanes y CorH, ond eisoes fe aeth yn angof gan lawer. Gwnaeth yr Athro R. II. Evans gymwynas fawr â ni wrth gyhoeddi ei astudiaeth. Y mae'r argraffwaith yn lân, a'r gyfrol yn ddestàis a chymen. Mawr hyderaf yn awr y daw allan gyfres newydd o Ddarlithiau Davies i gyfoethogi ein llen greiyddol. GOMEH M. RüBERTS. JANE EDWARDS, Epil Cain (CÀvasg Comer, 1972). £ 1.25. Wrth gyfeirio at ei nufelau, mynegodd Daniel Owen y sylw enwog, Nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifennais, ond i'r dyn cyffredin." Pe bai raid i nii grynhoi annel Jane Edwards mewn brawddeg debyg, fe fyddwn i'n dweud ei bod yn ysgrifennu ar gyfer pobl ddoeth a deallus y dosbarth canol sy'n anobeithio braidd wrth gael eu chwyldroi gan lifeiriant bywyd. 'Dwy i ddim yn awgrymu hyn yn feirniadol. Yn wir, 'fyddwn i ddim wedi cyfeirio at ddosbarth oni bai fod rhai o wyr y wasg yn ddiweddar wedi bod yn dilorni rhaglenni teledu i blant ac oedolion oherwydd iddynt gael eu hanelu at y dosbarth canol bondigrybwyll. Ychydig oedd deiliaid y dosbarth hwn yn nyddiau Daniel Owen ac ni olygai eu Cymreictod lawer i amryw ohonyn nhw, hyd yn oed y rhai a enillai eu tamaid drwy bregethu'r gair neu ddarlithio ar yr iaith. Hynny yw, 'roedd Daniel Owen yn llygad ei Ie wrth ysgrifennu ar gyfer ei gynulleidfa fwyaf niferus. A phe bai hanesydd cymdeithasol yn ymchwilio heddiw i hynt disgynyddion dyn cyff- redin Daniel Owen, dichon y gwelai fod y rhan fwyaf ohonyn nhw bellach yn y dosbarth canol. Gallai ymchwilio'n ddyfnach a darganfod mai dos- barth canol ifanc a chanol oed sy'n poeni heddiw am ddyfodol ein diwyll- iant a'n llên, am ein hiaith a chefndir magwraeth ein plant. Nhw sy'n ysgrifennu llyfrau, yn sefydlu ysgolion meithrin ac yn caru byw yn swn y Gymraeg. Pe mynnai rhyw Ddaniel Owen ysgrifennu ar gyfer y dyn cyff- redin presennol, byddai'n darganfod yn lled fuan na fyddai gan hwnnw amser i'w greadigaethau—ar wahân, efallai, i rai o'r hen bobl, sy, gwaetha'r