Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwilym REES Hughes ac Islwyn Jones (Gol), Storïau, 1972 (Gwasg Gomer). 90c. Seiliwyd y stori fer hir Mab y Wawrddydd,' Pennar Davies, ar Hanes Helbulus,' hunangofiant Mostyn Trefor, ac ar ddetholion o lythyrau rhyng- ddo ef a'i gariad Morwenna Tresize. Traserch cryf sy'n cydio'r ddau, a rhoddodd yr awdur flas a pherygl y nwydau cyn iddynt gael eu sianelu i gyfeiriad arall yn y stori. Eu tynged hwy wedi ugain mlynedd (1936-1956) yw bod ar wahân, a dyna ddirfodaeth y stori. A brawd Mostyn, y gweinidog, Wyn, y carai Morwenna, ar y dechrau, ond denodd Mostyn, yr addysgwr beiddgar ei syniadau, hi oddi wrth ei frawd. Cymeradwyai ryddid i'r plentyn lywodraethu yn yr ysgol fel mewn gwerin lywodraeth ddemocrataidd, beirniadu'r athrawon a chwyldroi gyfun- drefn addysgol ffiwdalaidd. Llesteiriwyd Mostyn gan bob prifathro o Gymro, a siomiant a fu ei ran. Dioddefodd eu crechwen a'r coegni, ond cafodd gysur o barch Morwenna a Wyn tuag at ei syniadau. Cryfder y stori sy'n rhedeg o dan y cefndir esoterig yn y llythyrau a'r pytiau hunangofìannol, yw'r cwlwm cymhleth rhwng Morwenna a Mostyn. drwy'r portreadau tynn a dyrys ohonynt hwy, drwy eu meddyliau anni- bynnol, eu hunan-adnabod, a'u cyffesu y down yn agos at eu personoliaeth eirias, a thrwyddynt hwy at Wyn hunan-ddisgybledig, a allodd fwrw ei siom, ac ymroi'n llwyr i'w waith fel gweinidog i gloffion cymdeithas. Yn derfynol, gwelir Wyn yn denu Morwenna ato, ynghyda'i mab, Eurythmus (epil Mostyn a hithau) i gydweithio ymysg eu cyd-ddynion er mwyn Crist. Gwelsai Morwenna ffolineb ei buchedd, a mynnodd mai ei drygioni hi'n byw â Mostyn heb ei briodi a fu'n achos gorffwylledd a natur dymherus ei brawd Piran (a oedd fel rhyw Efnisien yn Chwedl Branwen). Dyma stori gref yn argyhoeddi yn nhermau heddiw, a hoffais y diddan- wch a ddaeth i Morwenna Tresize, er nad oedd cyfwng i'r storïwr byr ein paratoi'n ddigonol at y newid ynddi. Bydd apêl i'r darllenydd yn yr ysgrifennu synhwyrus a dadansoddol, ac yn y dafodiaith fyrlymus. Weithiau, fodd bynnag, ymdeimlwn â chwith- dod ambell gystrawen ac ambell air, fel Edrychais amo'n ddieiriau,' a Cystal imi ddweud rhywbeth y dylai rhyw gyfaill ei ddweud wrthyt ti.' Ond y mae'r Gymraeg ymwylx>dol, academaidd a chymalog yn adlewyrchu cefndir y cymeriadau i'r dim. Drwy holl wead y stori, ei ffurf ddiddorol heb fod yn ddyddiadurol gaeth i drefn amser, ceir neges am fywyd (a natur addysg ein cymdeithas yng Nghymru). Ymdeimlwn â phobl ddeallus a chymhleth eu cefndir yn chwilio am y peth a gollwyd fel Gwladys Rhys gynt, ond fel y bardd yn 'Penillion Omar Khayâm yn cael mai yn ysbryd Duw y mae llawenydd pur a diddanwch. Onid dyna yw moeseg y stori? Jones Swbwrbia' a drych-feddyliau dosbarth canol y Jonesiaid' lled- Gymreig sydd dan ordd y dychanwr ysgafn yn stori Islwyn Ffowc Elis, a saernïodd yr awdur hi'n ofalus grefltus mewn deg rhan,