Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyd-gyfarfod gŵr y ty â'r potyn bondigrybwyll fel coron flodeuog am ei ben gyda'r Gweinidog dryslyd yn llygad-dyst i'r holl ffwlbri. Gwna'r awdur hwyl iach am ben seremonïa'r Eisteddfod, a chafodd Cliff wared â'r ym- welydd gorgynnar. Llun digrif yw hwnnw o'r gloddesta afrad nos Lun cyn seremoni'r Coroni hefyd: diota ar raddfa Steddfod Fawr Llangollen 1858 tybed? Rhoddodd Urien Wiliam ffrwyn bellach i'w ffraethineb wrth roi argraff- iadau Clifford Huws o holl faes y Brifwyl, heb ynddo wrthdrawiadau o fath yn y byd, dim ond holl ogoniant y pebyll a'u cynnwys o amgylch ogylch. Drwy arddull ffug-urddasol odidog, fe barodd i minnau chwerthin o'r dech- rau i'r diwedd am ben ei gampau geiriol a'i 'annuwiol hoen' coeglyd a gogleisiol. Yn y breuddwyd, pentyrrwyd geiriau rhyddieithol i'r Bryddest fuddugol- iaethus gan ab Dwla neu Cliff Huws, a chanmolwyd ffwlbri'r Bryddest am Rhiannon y Mabinogi, o ran arddull a chynnwys. Stori i godi bwrlwm o chwerthin ynoch yw hon, a gobeithio y daw rhagor ohonynt o'r peiriant prydu Talhaearnaidd Llawenydd yw canmol y pedair stori, a'ch annog i brynu'r llyfr hwn o fwyniant glân sy'n rhad am 90c. Gobeithio y daw ail argraffiad (a'r brychau cysodi wedi eu cywiro bob un) o Storimi 1972, ac y cawn ddisgwyl detholiad blynyddol o ddwylo'r Golygyddion deheuig a phrysur. Bangor. LILIAN HUGHES. DYFNALLT MORGAN, D. Gwenallt Jones. (" Writers of Wales." Universitry of Wales Press). 75p. Y mae gan Dyfnallt Morgan gymwysterau anarferol briodol a llawn at sgrifennu'r llyfr hwn. Fel Gwenallt yntau, ganed ef yn y De diwydiannol i deulu Cymraeg, diwyHiedig, crefycldol. Aeth ef i Goleg y Brifysgol, Aber- ystwyth, cafodd Gwenallt yn athro iddo yno a graddiodd gydag anrhydedd yn y Saesneg a'r Gymraeg, fel y gwnaed gan ei athro o'i flaen. Hefyd. mae'n heddychwr, yn grefyddwr, yn athro coleg, yn fardd ac yn feimiad llenyddol. Ni wastraffwyd y manteision hyn gan yr awdur wrth sgrifennnu'r gyfrol hon. Y mae mwy o anawsterau, dywedwn i, yn wynebu'r beirniaid hynny yn y gyfres Writers of Wales sy'n sgrifennu ar lenorion Cymraeg (T. Gwynn Jones, W. J. Gruffydd, etc.) nag sydd i'r rhai sy'n ymdrin a'r aw- duron Eingl-Gymreig (Idris Davies, Alun Lewis). Yn y lle cyntaf, ni all beirniad fel Dyfnallt Morgan gymryd yn ganiataol yn ei ddarllenwyr (" those," meddai, who do not speak Welsh, for whom this book is written ") unrhyw wybodaeth o fywyd Gwenallt, nac o'i waith, nac o'r gymdeithas a fyddai'n darllen y gwaith hwnnw. Felly, er mwyn gwneud ei bwnc yn ddealladwy, mae rheidrwycld arno i roi ffeithiau ac esboniadau sv'n ymddangos yn ddianghenraid a blin hwvrach i'r darllenydd Cymrae-g,