Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyfnallt ragymadrodd ar ein hagwedd ni tuag at farddoniaeth yng Nghymru, yna braslun o fywyd Gwenallt, ac, yng nghorff y llyfr, ddisgrifiad a chyf- ieithiadau o'i waith a thrafodaethau sylweddol ohono. Cefais un argraff annisgwyl iawn yn ganlyniad i'r ffaith mai cyfieithiadau a geir yma. Mae beirniadaeth Gwenallt ar waith R, J. Derfel a T. E. Nicholas, a'i sylwadau ar ddamcaniaethau barddonol. yn dreiddgar a bywiog iawn, ac yn awgrym i'r darllenydd di-Cymraeg, hwyrach, ei fod yn well beirniad nag yw ef o fardd. Diffiniodd un bardd Americanaidd farddoniaeth fel hyn Poetry," meddai, is what gets lost in translating. Y mae llyfr Dyfnallt Morgan yn codi amryw o gwestiynau ynglyn â Gwenallt a'i waith nas trafodir am y rheswm syml mai rhagymadrodd yn unig a fwriedir ynddo. Hoffwn i fod wedi cael ei farn ar Gwenallt fel cyfìeithydd (o waith Rilke, y Glêr, Villon, Goethe ac eraill); hefyd, yr oedd ef yn fardd crefyddol, ei waith yn frith gan gyfeiriadau at bobl a gwledydd y Beihl—a sgrifennodd ef emynau erioed ? A bregethodd ef? Sut siaradwr cyhoeddus oedd ef-ydyw darlun trawiadol Harri Webb ohono yn ei gân Gwenallt yn un cywir? Beth oedd agwedd ei gyfoeswyr ato ar ôl yr anghytuno cynnar? Personoliaeth amrywiol a chyfoethog a oedd gan Gwenallt. a dengys y ffaith fod Dyfnallt Morgan wedi crynhoi cymaint ohoni i gyn lleied o ofod ei feistrolaeth ar ei ddéfnydd a'i fedrusrwydd yn ei drefnu. Y mae'r llyfr yn cloi gyda geirfa о dros drigain a deg o eiriau (Cnawd ac Ysbryd = Flesh and Spirit Yr Awen = The Muse, ac yn y blaen). Hefyd, cawn 'Seiected Bibliography sy'n rhoi enwau a man cyhoeddi erthyglau Saesneg a Chymraeg ar waith Gwenallt. y rhai Saesneg gan Dr. Gwyn Thomas. Ned Thomas. Aneirin Talfan ac Albert Davies. Buasai cynnwys cyfeiriad at drosiadau Anthony Conran o waith Gwenallt yn ei Penguin Book of Welsh Verse yn briodol yma. Gresyn nad oedd llyfrau Gerallt Jones (Pryf yn y Pren. Llandysul, 1973) a Joseph Clancy, sy'n cynnwys ill dau gyfieithiadau i'r Saesneg o waith Gwenallt. wedi ymddangos pan sgrifennwyd y llyfr hwn. Gwelaf fy hunan yn llawer agosach at y rhai di-Gymraeg (" for whom this book was written "), mor bell ag y mae gwaith Gwenallt yn y cwestiwn. nag at ddarllenwyr yr adolygiad hwn: ac o'r safbwynt hwnnw ni fuaswn i byth yn disgwyl cael gwell cyflwvniad na'r llyfr trefnus. synhwyrol hwn i waith y bardd. ac yng ngeiriau cân Meic Stephens amdano. his faith, his language and his living song." GLYN JONES.