Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fel y sylwa'r awdur, dyma un nodwedd amlwg yn y rhan fwyaf o'r trafod ecwmenaidd diweddar ar fedydd, sef cymedroldeb a boneddigeidd- rwydd." Buom yn bodloni'n rhy hir o lawer ar ddywediadau slic ac angh- aredig, fel un y pregethwr enwog o Fôn mewn Cymanfa Bedyddwyr pan na chynigiwyd yr elfennau iddo yn y Cymun: "Popeth yn iawn! Eich swper chi ydy hwn, nid Swper yr Arglwydd." A diolch fyth fod yr ysbryd a nodweddai ddadleuon y canrifoedd a fu yn absennol o'r dadleuon cyfoes! Doniol yw'r rhestr ar dudalen 13 o deitlau rhai o gynhyrchion y gorffennol The Dipper Dipt, Baby Baptism mere Babism, The Anabaptist washt and washt and shrunk in the washing. Eithaf teg yw disgrifiad Eirwyn Morgan ^'r peth; y llysenwi a'r tafodi anghristnogol hwn." Yn y gyfrol hon cawn amlinelliad cytbwys o ddadleuon rhai fel Jeremeias, Micklem, Whale, Cullman, a Manson o blaid bedydd plant, yn ogystal ag n ddadleuon rhai fel Barth, Rowley a Wheeler Robinson yn ei erbyn. Ceir pennod hynod o ddiddorol ar y dull' o weinyddu gan wahanol enwadau, a nifer o ddarluniau, yn dangos yr amrywiaeth defodau, yn ychwanegu llawer at werth y gyfrol. Ond i lawer, yr hyn a rydd fwyaf o foddhad yw'r ym- driniaeth drylwyr-fel y gellid disgwyl gan ecwmenydd mor frwd ag Eirwyn Morgan—o'r cyd-drafod eglwysig, a hynod o werthfawr yn eu golwg hwy fydd yr atodiad maith (bron hanner y gyfrol) yn cynnwys dog- fennau ecwmenaidd a dogfennau enwadol. Hwylus yw cael y cyfan gyda'i gilydd fel hyn mewn un gyfrol, yn lle bod dyn yn gorfod chwilota am- danynt mewn gwahanol lyfrynnau a phamffledi. Un o rinweddau'r gyfrol yw nad yw'r awdur am wthio ei safbwynt ei hun amom. Ond y mae'n amlwg ei focl yn cytuno â'r rhai sy'n gweld tyst- iolaeth y Testament Newydd yn bendant o blaid bedydd credinwyr. Amlwg hefyd nad yw'n ystyried y ffaith i'r Iesu dderbyn plant bychain yn ddigon o sail dros eu bedtfddio. Ei obaith yw y daw'r "Eglwys Gyffredinol, ymhen hir a hwyr, i arddel dwy ddefod, cyflwyniad plant a hedydd credjnwyr," er nad yw'n disgwyl i hynny ddigwydd cyn diwedd y ganrif. Ond yn y cyfamser erys y cwestiwn: beth yw safle'n plant yn yr Eglwys? Yn ôT safbwynt y Bedyddwyr, ni allant fod! yn aelodau ynddi nes hod yn aeddfed i weithredu ffydd a chael eu bedyddio. A dyna'r anhaws- ter i lawer: anodd ganddynt feddwl am yr Eglwys ond fel cymdeithas sy'n cynnwys y plant yn rhan hanfodol ohoni. laohus yw rhyhudd ìRirwyn Morgan ar y diwedd mai cyfnodau diryw- iad yn yr Eglwys yw'r cyfnodau pan yw ei diddordeb ynddi ei hun a'í defodau yn anghymesur." Tybed a gytunai'r awdur â'r fam a ddyfynnir ganddo, nad bod dyn wedi'i fedyddio drwy drochiäcl yn ewyllysgar, fwy na dyn wedi'i fedyddio yn ei fabandod sy'n wir bwysig, ond ei fod wedi marw gyda Christ, a'i gyd-gyfodi gydag Ef i fywyd newydd"? Hwyrach y deuai undeb yn nes pe ceid pawb i gytuno â hyn. Diolch o galon i'r Prifathro am ymdriniaeth ofalus, drylwyr ac ean>gfrydig, ac i Wasg John Penry am gyfrol raenus a rhad. HARRI WILLIAM