Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CHWYN Bob gwanwyn roedd y clawdd yn deffro, Yn troi'n llygadau Ebrill a briallu, Drain ffrothwyn, a ohwyn. Chwyn. Thâl peth fel hyn ddim," Meddai dyn ffyrdd y cyngor. 'Does ar bobol ddim eisio rhyw sgrwts Felma ar ochra'r lonydd; Dowch yma efo'r chwistrellydd A difa'r anialwch yn derfynol." Â phen pibell rhwng ei fysedd Fel sarff yn hisian angau Gwenwynodd y gweithiwr yr ochrau, A phylodd y ohwyn. Pylodd hefyd, a gwelwodd y blodau, Troes y ddraenen wen yn ysbaddaden o6dus, Galarodd y ddaear. O'i gar ar y tar macadam Edrychodd y dyn ffyrdd Ar fyrdd y marwolaethau, Ar yr anadferadwy wanwyn. Y tu ôl i'w lygaid gwenwynwyn Trôdd cocos ei ymennydd a meddyliodd, Rydym ni, yn 'fan hyn, Wedi gwneud di-fai job ar ddifa r chwyn." GWYN THOMAS.