Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

POEN Ni welodd neb boen erioed, dim ond ei gryndod ar gnawd, a'i ôl wedi'r elo ni thynnwyd ei lun gan un arlunydd, nis gwelwyd drwy'r pelydr x; erys mor anweledig â'r gwynt a'i drywydd yn ddiriaeth. Cei ddarllen ei neges ar femrwn y croen, cei ddilyn ei helfa drwy fforest y nerfau, a chanfod ei goncwest yng ngwayw'r llygad ond nis gweli na'i adnabod. Ti a glywi ei gri sy'n utgorn yr Heliwr a rylbuddia'r cnawd methedig, a rhoi siawns dianc rhag helgwn angau. Pan fo'n sodli dy einioes daw balm o dosturi, eithr erys y blinder, cans ni all yr iach wrth droed y gwely gyd-ddioddef, ac ni all gwaed na dychymyg bontio'r bwlch na chario'r baich, dim ond edmygu'r gwroldeb a goncra'r cancr a'i droi yn berl. R. BRYN WnxiAMs.