Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bresych! Ni fu iddynt erioed Na rhin na rhamant yn fy ngolwg. Gwir y carwn weld glendid eu calonnau carlwm Mewn siacedi o dinsel coch a gwyrdd yn y siopau, A llygaid truenus y mecryll marw Yn rhythu'n ddi-ddirnad arnynt O'r llysnafedd ar farmor Cerrig beddau'r ffenestri. Bresych Roeddynt ar galendr y Creu Pan flagurodd y ddaear egin, Pan ddaeth llysiau i hadu A phrennau i ddwyn ffrwyth. Ond ymhen tipyn, Crëodd Duw ddyn Ar ei lun ac ar ei ddelw'i hunan. A'r dyn a blannwyd yn yr ardd Ac a dyfodd i'w gwymp. Damwain, medd y meddyg Ar ôl fy namwain; Dyn, campwaith y creu Wedi disgyn yn drwsgwl ar ei ben, Crawen ei benglog cyn freued ag wy-byddwoh-ofalus o'r nyth Yn grac egr ar lawr, A'r gwaed yn yr ymennydd Yn llifo'n fwrlwm tew, tawel Fel ffynnon o olew mewn crindir cras. Bûm yn hongian yn hir ar y bachyn Rhwng terfynau gwybod ac anwybod. AR DDAMWAIN