Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Norma Irene HANES trist yw hwn, ond stori arwrol am eneth yn canu ei phrofiad mewn cystudd mawr. 'Rwy'n cofio dysgu cân werin yn blentyn, cân oedd yn sôn am alarch yn canu wrth farw. Yo soy como el ave Cisne 'Rwyf fi fel yr edn Alarch Que canta cwtndo se muere Sy'n canu wrth iddo farw: Amame como yo te amo a ti. Câr di fi, fel 'rwyf fi'n dy garu di. A dyna'n union oedd profiad Norma Irene y ddwy flynedd ddiwethaf. Treuliais y dydd cyn Nadolig y flwyddyn 1967 ar lan y môr yn Nyiffryn Camwy, y dydd ar ei hwyaf a'r gwres yn Uethol, dẃr y môr yn gynnes braf a graean y traeth yn llosgfa dan y gwadnau. Yna'n ôl i bentref Gaiman erbyn deg y nos, lle'r oedd y coed yn y plaza wedi eu goleuo â lampau lliw, a thorf gymysg yn rhodianna odanynt. Ar lwyfan yn iyr awyr agored, cafwyd math o Wylnos. Ymysg y rhai a berfformiai yno yr oedd Côr Aelwyd yn canu yn Gymraeg. Aelodau'r côr oedd Homer ac Irfonwy Hughes a'u plant, Norma Irene, geneth 14eg oed, ei brawd Homer Roy yn 12 oed, a'i tair chwaer, Nuri Mai yn 10 oed, Dona Margorie yn 8 oed, a Judith Corinne yn 7 mlwydd oed. Dyma un o'r ael- wydydd a gadwodd draddodiadau Cymru yn fyw yno, a phob un o'r plant yn siarad a darllen Cymraeg. Yn ystod Chwefror y flwyddyn 1970 aeth y teulu am wyliau i Bariloche, ardal fynyddig sy'n un o'r mannau harddaf a welais erioed. Wedi'r gwyliau, cafodd Norma a oedd yn un ar bymtheg oed, boenau yn ei chefn. Tybiwyd mai seiatica oedd yr achos, ond wedi mynd at amryw o feddygon, cafodd driniaeth law- feddygol a barhaodd naw awr. Bu'n wael iawn yn yr ysbyty yn Nhre-lew, a neb ond ei rhieni yn cael ei gweld. Rhoddwyd ei chefn mewn plaster, a chafodd fynd adref ym .Mehefin y flwyddyn 1971. Ymhen y mis gallai gerdded ar fraich ei thad a chyda chymorth llon, ond wedi tynnu'r plaster, aeth y poenau yn annioddefol. Cafodd driniaeth arall a ddiffrwythodd ei choesau. Canfuwyd mai sarcoma oedd achos ei gwaeledd, sef tyfiant llidus yn yr asgwrn <4efn, math o gancr. Ni tihybiai'r meddygon y bnasai'n