Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Wales See England" WRTH ddarllen hanes gwleidyddol a chymdeithasol Cymru rhwng 1900 a 1925, ni all dyn beidio â rhyfeddu mwy a mwy at y dadeni disglair a ddigwyddodd yn ystod yr un cyfnod mewn llenyddiaeth ac ysgolheictod Cymraeg. Wrth ystyried y cyfnod hwn yr enwau a ddaw i gof gyntaf, erbyn heddiw, beth bynnag, yw W. J. Gruffydd, O. M. Edwards, John Morris-Jones, Tegla-i nodi dim ond rhai. Y gwýr hyn a'u gweithiau a barodd i'w dilynwyr droi i ddisgwyl pethau newydd a chyffrous o Gymru ei hun; eu gwaith a'u beiniiadaeth lenyddol ac ysgolheigaidd hwy yw'r clawdd mawr cyntaf sy'n gwahanu'r ganrif bresennol yn ein hanes oddi wrth y bedwaredd ar bymtheg. Nid fy amcan yma yw trafod dim un o'r awduron hyn; yn ffodus, nid oes angen hynny, canys y mae Uu o erthyglau ac amryw lyfrau ar gael sydd i gyd yn dangos eu sylwedd a'u pwysigrwydd. Ceisio tanlinellu eu rhyfeddod trwy drafod eu cefndir a'u dydd en hunain a wnaf yma, ac i'r pwrpas hwnnw rhaid troi i sylwi ar bobl a phethau nad ydynt na llenorion na llenyddiaeth o gwbl. Un o ffynonellau pwysicaf ein hanes diweddar yw Adroddiad y Comisiwn Tir yng Nghymru a gyhoeddwyd ym 1896. Mae pob pennod ohono yn hanfodol i unrhyw astudiaeth ddiwylliannol o Gymru'r ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon. Yma, ni allaf ddefnyddio mwy nag ambell ffaith berthnasol, ond dyma ran, beth bynnag, o'r darlun. Yn ôl Cyfrifiad 1891, y grwp ieithyddol Ueiaf yng Nghymru oedd y Cymry dwyieithog. I'r fil agosaf, dyma oedd y sefyllfa: pobl na allent siarad Cymraeg-759 mil; Cymry uníaíth-508 mil; pobl dwyieithog neu amlíeíthag-402 mil. O hyn, fe geir cyfan- swm o 910 o filoedd a oedd yn medru siarad Cymraeg, sef dipyn dros hanner yr holl boblogaeth.1 Dyna oedd cynulleidfa bosibl y y pregethwr a'r siaradwr cyhoeddus Cymraeg a nhan ohoni, beth bynnag, oedd cynulleidfa'r Uenor o Gymro. Ysywaeth, nid yw'r Cyfrifiad yn dweud faint a fedrai ddarllen a sgrifennu Gymraeg, ond dyfynnir rhai ffigurau yn yr Adroddiad Comisiwn Tir (ACT G