Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar Bwy Mae'r Cyfrifoldeb? NID oes llawer o amheuaeth i rywbeth ddigwydd ym mhentref bychan My Lai yn Vietnam ar Fawrth 18, 1968, y gellid ei alw'n lladdfa. Y diwrnod dychrynllyd hwnnw fe saethwyd rhai can- noedd, gan gynnwys nifer mawr o blant, o drigolion y pentref hwn yn Vietnam. Nid oes amheuaeth ychwaith mai milwyr o fyddin yr Unol Daleithiau a fu'n gyfrifol am y saethu, dynion a berthynai i Charlie Company, 1st Battalion, 20th Infantry, U.S. Army." Hyd yma, yr unig berson a gyhuddwyd o drosedd ynglyn â'r lladdfa yw First Lieutenant William L. Calley. Eto, nid yw'n gredadwy mai Calley yn unig a saethodd ac a laddodd drigolion My Lai y diwrnod ofnadwy hwnnw, nac mai ef yn unig sy'n gyfrifol am y lladdfa. Pwy felly sy'n gyfrifol? Cyhudda rhai fyddin yr Unol Daleithiau oherwydd ei threfn flêr, neu hwyrach ddiiffyg trefn, o baratoi ei milwyr ar gyfer rhyfel. Cyhudda eraill system boliticaidd bwdr yr Unol Daleithiau, tra gwêl eraill holl drigolion yr Unol Daleithiau yn gyfrifol am y trosedd, yn union fel ar òì yr Ail Ryfel Byd, y cyhuddwyd holl drigolion yr Almaen o gyfrifoldeb am weithredoedd erchyll Hitler yn difa miloedd o Iddewon yn y ffwmeisi tân. Ond ai teg a rhesymol yw gosod y cyfrifoldeb am My Lai ar ysgwyddau un gŵr ifanc yn unig? Neu a ellir yn ystyrlon sôn am gyfrifoldeb holl ddinasyddion yr Unol Daleithiau am rywbeth a ddigwyddodd filoedd o filltiroedd i ffwrdd, digwyddiad na wyddent hwy ddim amdano ar y pryd? Mae codi'r cwestiynau hyn yn arwain yn syth at drafodaeth a dadansoddiad athronyddol o'r syniad o gyfrifoldeb, ac yn arbennig o'r syniad o gyfrifoldeb moesol. Byddai pawb yn cytuno fod mwy nag un ystyr i'r gair cyfrif- oldeb a mwy nag un agwedd i'r syniad. I gychwyn, defnyddiwn y syniad o gyfrifoldeb yn yr ystyr o rywbeth yn achos i ryw ddigwyddiad arall. Os dywedaf mai mellten a fu'n gyfrifol am daniio'r das wair, yr hyn a olygaf mewn gwirionedd yw mai'r fellten a achosodd ei thanio. Yngiŷn â digwyddiad naturiol fel hyn, nid oes unrhyw apêl at syniad moesol o gyfrifoldeb pan sonnir fod un digwyddiad yn gyfrifol am y llall. Yn ail, defnyddiwn y gair eyfrifoldelì yn fvnyeh i sôn am gyfrifoldeb rhieni am eu